Heddiw cynhyrchwn a defnyddiwn 20 gwaith mwy o blastig nag a wnaethom 50 mlynedd yn ôl ac fe all y plastig hwnnw gymryd hyd at 500 mlynedd i bydru’n llwyr
Mae pob darn o blastig a wnaed erioed fwy neu lai yn dal i fodoli ar ryw ffurf neu’i gilydd (ac eithrio’r ychydig a losgwyd)
Os na newidiwn ein defnydd o blastig (ac mae angen i ni!) ymhen 20 mlynedd byddwn wedi dyblu ein defnydd presennol
O fis Hydref 2019 ymlaen, bydd Cyngor Sir Penfro’n casglu ac ailgylchu HOLL blastigion (heblaw plastig du a haenau plastig) o ymyl y ffordd BOB WYTHNOS a bydd yn rhoi sach i bob cartref gadw’i blastig ynddi
Mae ailgylchu plastig yn ddewis gwell na’i anfon i dirlenwi, ond mae cynhyrchu’r eitem blastig honno yn y lle cyntaf yn dal i roi pwysau enfawr ar ein hadnoddau naturiol. Hyd yn oed gyda mwy a gwell cyfleoedd ailgylchu ar gael yn Sir Benfro, dylech bob amser geisio Lleihau neu Ailddefnyddio’n gyntaf
Rhowch blastig du a haenau’n unig yn eich sachau duon
▪ Caiff 275,000 o dunellau o blastig eu defnyddio bob blwyddyn yn y DU. Mae hynny o gwmpas 15 miliwn o boteli ‘un defnydd’ bob dydd. Gwaetha’r modd, dim ond tua’u hanner sy’n cael eu hailgylchu
▪ Ar gyfartaledd, bydd aelwydydd yn y DU yn defnyddio 480 o boteli plastig bob blwyddyn, gyda dim ond 270 ohonynt yn cael eu hailgylchu (sy’n golygu bod 44% yn cael eu hanfon i dirlenwi)
▪ Mae’r rhan fwyaf o aelwydydd yn taflu o leiaf 40kg o blastig bob blwyddyn, sy’n ddigon i wneud 10 o finiau ailgylchi
▪ Caiff 17 biliwn o fagiau neges plastig eu defnyddio gan gwsmeriaid archfarchnadoedd bob blwyddyn - dyna 290 o fagiau’r un!
Gwnewch nodyn o’ch ateb a dal i ddilyn y Llwybr Eco Hyrwyddwr