Yn y DU, caiff 24 miliwn tunnell o alwminiwm ei gynhyrchu bob blwyddyn, 51,000 tunnell ohono’n dod yn ganiau diodydd a thuniau bwyd
Bob dydd bydd dros 80 miliwn o ganiau bwyd a diodydd y DU yn cael eu hunain mewn tirlenwi oherwydd na roddwyd hwy mewn biniau ailgylchu
Mae caniau alwminiwm a dur yn hollol ailgylchadwy, sy’n golygu bod pob can a roddwch i’w ailgylchu’n gallu bod yn ôl ar y silff o fewn 60 diwrnod
Mae Cyngor Sir Penfro’n rhoi blwch i bob cartref gadw eu tuniau a chaniau ynddo ac yn eu casglu BOB WYTHNOS o ymyl y ffordd cyn eu swmpu a’u hanfon i’w hailgylchu yng Nghymru
▪ Mae gwneud un can newydd yn defnyddio’r un faint o ynni ag ailgylchu 20 o ganiau diodydd
▪ Pe bai holl ganiau’n cael eu hailgylchu yn y DU, byddai angen 14 miliwn yn llai o finiau lludw arnom
▪ Rydym yn defnyddio dros 5 biliwn o ganiau alwminiwm y flwyddyn neu 600 yr aelwyd ar gyfartaledd yn y DU
▪ Mae caniau alwminiwm yn werth rhwng 6 ac 20 gwaith mwy nag unrhyw ddeunydd arall sy’n cael ei ddefnyddio fel deunydd pacio
▪ Mae defnyddwyr y DU yn defnyddio rhyw 12 biliwn o ganiau bob blwyddyn a phe byddent mewn rhes, gallent fynd o amgylch y ddaear 30 gwaith
▪ Caiff gwerth rhyw £36 miliwn o alwminiwm ei anfon i dirlenwi bob blwyddyn
Gwnewch nodyn o’ch ateb a dal i ddilyn y Llwybr Eco Hyrwyddwr