Caiff gwydr ei wneud yn bennaf o dywod… ac nid yw hwn yn adnodd naturiol y mae’r blaned yn beryglus o fyr ohono
Mae gwydr yn hollol ailgylchadwy ac mae modd ei ddefnyddio drosodd a throsodd o’i ailgylchu… ond ni fydd gwydr sy’n mynd i dirlenwi fyth yn pydru
Mae llawer ffordd o ailddefnyddio poteli a photiau gwydr o gwmpas y cartref, sy’n gallu helpu lleihau faint o wydr a daflwch
Mae Cyngor Sir Penfro’n rhoi blychau i bob cartref gadw poteli a photiau gwydr ynddynt a chânt eu casglu bob pythefnos o ymyl eich ffordd
Ni ddylai gwydr fynd i sachau duon
▪ Ar gyfartaledd, mae pob teulu’n defnyddio 500 o boteli a photiau gwydr bob blwyddyn
▪ Caiff poteli llaeth eu defnyddio 13 gwaith ar gyfartaledd cyn cael eu hailgylchu (rhaid cymharu hynny â ‘phlastigion defnydd untro’)
▪ Mae ailgylchu gwydr yn y DU yn arbed digon o ynni i lansio 10 gwennol ofod
▪ Caiff y botel wydr gyffredin ei gwneud o gymaint â 25% o wydr wedi’i ailgylchu; fodd bynnag, mae poteli gwyrdd yn cynnwys gymaint â 90%
▪ Mae ailgylchu 2 botel yn arbed digon o ynni i ferwi digon o ddŵr i wneud pum cwpanaid o de neu yrru cyfrifiadur am 50 munud
Gwnewch nodyn o’ch ateb a dal i ddilyn y Llwybr Eco Hyrwyddwr