Rydym yn chwilio am ofalwyr maeth o bob cefndir – nid oes gwahaniaeth pa un a ydych yn briod, wedi ysgaru, yn byw gyda phartner, yn sengl; yn hoyw, yn lesbiaidd, yn drawsryweddol, neu'n perthyn i ba bynnag grefydd neu grŵp ethnig; pa un a ydych yn berchen ar eich tŷ eich hun neu'n rhentu; neu os oes gennych swydd ai peidio.
Mae sgiliau gofalwr maeth yn cynnwys gofalu am blant yn ystod cyfnodau o ansicrwydd, tra bo cynlluniau ar y gweill i helpu'r plentyn i symud ymlaen. Bydd eich boddhad yn deillio o wybod eich bod wedi cyfrannu at iechyd a lles y plentyn, ynghyd â chynyddu ei siawns, gobeithio, o gael dyfodol sefydlog.
Yr unig beth y mae'n rhaid i bawb feddu arni yw YSTAFELL WELY SBÂR!
Argraffu: Maethwch i Sir Benfro
Argraffu: A allwn i faethu?
Y camau nesaf
Ffoniwch 01437 774650.
Edrychwn ymlaen at glywed gennych a byddem yn fodlon ateb unrhyw gwestiynau pellach a allai fod gennych.
Byddwn yn trefnu i gwrdd â chi ac aelodau o'ch teulu yn eich cartref, ynghyd â thrafod yr holl bethau y bydd angen i chi eu gwybod.
www.facebook.com/pembsfostering
fostering@pembrokeshire.gov.uk
www.maethu.canolbarthagorllewin.cymru/pembrokeshire/
Cysylltiadau Defnyddiol :