Mae Rheoliadau Addysg (Fforymau Derbyn) (Cymru) 2003, yn mynnu bod pob awdurdod addysg yng Nghymru yn sefydlu fforwm derbyn (y cyfeirir ato yma wedi hyn fel ‘y Fforwm’). Gellir diwygio cyfansoddiad a chylch gorchwyl y Fforwm ar unrhyw adeg er mwyn cydymffurfio â newidiadau i’r ddeddfwriaeth gynradd neu’r rheoliadau.
Bydd y Fforwm yn darparu sianel gyfathrebu ffurfiol rhwng Cyngor Sir Penfro, yr ysgolion a gynhelir ganddo, awdurdodau derbyn eraill yn Sir Benfro ac eraill sydd â diddordeb mewn derbyniadau ysgolion yn rhanbarth Sir Benfro ar y cyfryw faterion sy’n ymwneud â derbyniadau ysgolion ag y gwêl Cyngor Sir Penfro yn dda ac a fydd, o bosibl, yn cael eu rhagnodi mewn rheoliadau.
Cyfansoddiad a Chylch Gorchwyl
Fforwm Derbyniadau - Cyfansoddiad a Chylch Gorchwyl
Cofnodion Fforwm Mynediad
Cofnodion Fforwm Mynediad - 18 Mehefin 2020
Cofnodion Fforwm Derbyn 7 Tachwedd 2019
Cofnodion y Fforwm Derbyn 13 Mehefin 2019
Cofnodion y fforwm Derbyn 21 Tachwedd 2018
Cofnodion Fforwm Mynediad - 14 Mehefin 2018