Croeso i 2021
Er bod y Canolfannau Dysgu Cymunedol yn parhau ar gau o ganlyniad i gyfyngiadau presennol y cyfnod clo, rydym yn parhau i ddarparu cymaint o gyrsiau â phosibl ar-lein. Ewch ihttps://www.sir-benfro.gov.uk/addysg-i-oedolion i weld yr holl gyrsiau sydd ar gael gennym. Cynigir gostyngiad o 25% ar gyfer rhai o'r cyrsiau a ddarperir ar-lein.
Pe bai’n well gennych drafod ein cynigion, gallwch gysylltu â'r staff sydd wrth eu gwaith trwy ffonio rhifau ffôn y canolfannau.
Cadwch yn ddiogel.
Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn o newidiadau a heriau!
Ar hyn o bryd, mae Sir Benfro yn Dysgu yn darparu eu dosbarthiadau iaith i gyd ar-lein. Hefyd, mae rhai dosbarthiadau sgiliau hanfodol, sgiliau digidol a dosbarthiadau iechyd a llesiant yn cael eu darparu ar-lein neu fel dysgu cyfunol. Bydd mwy o ddosbarthiadau ar gael yn fuan.
Yn cychwyn ym mis Mawrth, rydym yn cynnig dosbarthiadau sgiliau digidol rhagarweiniol a leolir yn y dosbarth yn RHAD AC AM DDIM - Sgiliau digidol – Camau Cyntaf ar gyfer dysgwyr sydd angen gwella eu gallu i gyfathrebu ar-lein ac i ddysgu ar-lein.
Am fwy o wybodaeth am y cyrsiau i gyd: Chwilio am gwrs neu ffoniwch eich canolfan ddysgu gymunedol neu 01437 770130 am fanylion.