Mae staff y safleoedd wedi cael eu cyfarwyddo a'u hawdurdodi i archwilio'r holl wastraff sy'n dod i mewn i'r safle, os oes modd yn y byd, er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r rheoliadau. Byddant hefyd yn gofyn i gwsmeriaid o ble mae eu gwastraff wedi dod yn y lle cyntaf. Ar ôl i gwsmeriaid waredu eu gwastraff, bydd y gwastraff wedi hynny yn eiddo i Gyngor Sir Penfro ac ni ddylai staff y safle na'r cyhoedd ei symud bant o'r Canolfannau. Byddai unrhyw ddigwyddiadau o'r fath yn cael eu hystyried yn lladrad.
Gofynnir i gwsmeriaid fod yn gwrtais tuag at staff y safleoedd a thuag at gwsmeriaid eraill. Ni chaniateir i neb ddifrïo na bygwth staff y safleoedd. Fe ddodwyd Teledu Cylch Cyfyng yn un neu ddau o'r safleoedd er diogelwch a lles iechyd y cwsmeriaid a'r staff ac er mwyn diogelu'r safle.
Os bydd eich nwyddau yn rhy swmpus i'w dodi yn eich cerbyd yna fe allwch wneud cais i'r awdurdod ddod i'w mo'yn, trwy'r Gwasanaeth My Account