Map o Wardiau Cyngor Sir Penfro
Toiledau Cyhoeddus yn Sir Benfro
Gorsafoedd a Dosbarthau Pleidleisio Sir Benfro
Mae data daearyddol a gynhyrchwyd gan Gyngor Sir Penfro ar gael trwy wasanaethau WMS a WFS gan ddefnyddio’r URL hwn - http://inspire.pembrokeshire.gov.uk/geoserver/wms. Bydd arnoch angen meddalwedd GIS i ddefnyddio’r gwasanaethau hyn. Mae QGIS (http://www.qgis.org/) yn rhaglen GIS lawn ar gyfer bwrdd gwaith, yn rhad ac am ddim.
Mae gwylwyr data GIS eraill i’w cael yma https://www.gislounge.com/free-gis-data-viewers/.
Mae mapiau cefndir i’w defnyddio gyda’r data’n rhan o gynnig DataAgored yr Arolwg Ordnans. Mae gwasanaethau mapiau cefndir WMS eraill ar gael (mae ategyn QGIS ‘QuickMapServices’ yn caniatáu llwytho rhai o’r rhain yn rhwydd, neu gwelwch ddogfennau eich meddalwedd GIS).
Mae metadata (gwybodaeth am y data) i’w chael ar gyfer rhai o’r data o data.gov.uk, ac mae’r data sydd ar gael i’w gweld ar data.gov.uk preview service.