Mae pob ysgol yn Sir Benfro eisoes yn cynllunio ac yn cyflwyno dysgu cyfunol i'w dysgwyr ac mae hyn bellach yn cynnwys datblygu ffrydio gwersi’n fyw lle y bo'n bosibl.
Mae ysgolion wedi cyflwyno polisi enghreifftiol ledled y Sir ar gyfer defnydd derbyniol o ffrydio’n fyw i rieni.
Mae ysgolion wedi bod yn hyfforddi staff i ddefnyddio nifer o blatfformau fel Microsoft Teams a Google Classrooms, gan gynnwys hyfforddiant a chymorth ar gyfer gweithgareddau cydamserol ac anghydamserol, gan fod hyn yn cefnogi teuluoedd i allu diwallu anghenion dysgwyr gartref.
Dysgu o Bell drwy Hwb
Mynediad am ddim I ystod o offer ac adnoddau. Addas ar gyfer oed meithrin ymlaen. Bydd gan eich plenty fanylion mewngofnodi a bydd wedi dysgu sut i’w ddefnyddio yn yr ysgol.
https://hwb.gov.wales/dysgu-o-bell
Dysgu Arlein
Mae athrawon ysgolion cynradd Sir Benfro wedi cydweithio i greu adnodd dysgu dwyieithog gwych ar-lein i blant a theuluoedd y sir ei ddefnyddio gartref www.dysguarlein.com