Plant ac Ysgolion - Pontio ir normal newydd
Dysgu o bell
Mae ysgolion wedi cyflwyno polisi enghreifftiol ledled y Sir ar gyfer defnydd derbyniol o ffrydio’n fyw i rieni.
Mae ysgolion wedi bod yn hyfforddi staff i ddefnyddio nifer o blatfformau fel Microsoft Teams a Google Classrooms, gan gynnwys hyfforddiant a chymorth ar gyfer gweithgareddau cydamserol ac anghydamserol, gan fod hyn yn cefnogi teuluoedd i allu diwallu anghenion dysgwyr gartref.
Mynediad am ddim I ystod o offer ac adnoddau. Addas ar gyfer oed meithrin ymlaen. Bydd gan eich plenty fanylion mewngofnodi a bydd wedi dysgu sut i’w ddefnyddio yn yr ysgol.
Mae athrawon ysgolion cynradd Sir Benfro wedi cydweithio i greu adnodd dysgu dwyieithog gwych ar-lein i blant a theuluoedd y sir ei ddefnyddio gartref
Profion ac asesiadau
Am y wybodaeth ddiweddaraf: Newyddion Cymwysterau Cymru
Prydau Ysgol am Ddim ac Arlwyo Heb Arian
Prydau Ysgol am Ddim
Anfonwch e-bost at cashless.catering@pembrokeshire.gov.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau neu ffoniwch 01437 775912, 01437 775922 neu 01437 775250.
Hysbysiad Preifatrwydd – Prydau Ysgol am Ddim
Arlwyo Heb Arian mewn Ysgolion Uwchradd
Gellir ychwanegu at gyfrifon prydau ar-lein trwy Fy Nghyfrif
Er mwyn gofyn am rif cyfrif prydau, neu am wybodaeth bellach, e-bostiwch cashless.catering@pembrokeshire.gov.uk
Gwybodaeth am drafnidiaeth ysgol
Cwestiynau Cyffredin ar gyfer cludiant i'r Ysgol
Pwy fydd yn gymwys i gael cludiant i'r ysgol?
Pawb a oedd â hawl cyn Covid-19 yn unol â pholisi cludiant arferol yr ysgol. Fodd bynnag, rydym yn dal i annog rhieni i ddilyn cyngor Llywodraeth Cymru a cheisio mynd â'u plant eu hunain i'r ysgol ac oddi yno lle bynnag y bo modd. Bydd hyn yn sicrhau y bydd cludiant ar gael i'r rhai sydd ei angen fwyaf.
Sut y bydd cadw pellter cymdeithasol yn gweithio ar gludiant i'r ysgol?
Bydd ymbellhau cymdeithasol yn digwydd ar gerbyd mawr (16+ sedd) rhwng y gyrrwr a'r disgyblion/myfyrwyr. Bydd hyn yn cael ei gynnal gan na fydd modd defnyddio’r rhes flaen o seddi. Ni fydd ymbellhau cymdeithasol ac felly bydd staff yn gwisgo’r cyfarpar diogelu priodol i liniaru unrhyw risgiau.
A fydd disgwyl i blant wisgo gorchudd wyneb ar gludiant addysg penodedig?
Bydd yn orfodol i ddisgyblion oedran uwchradd a myfyrwyr coleg wisgo gorchudd wyneb ar gludiant addysg penodedig oni bai eu bod yn cael eu heithrio. Caiff ei argymell a'i annog ar gyfer pob disgybl arall.
Gweler y ddolen i ganllaw LlC ar sut i wneud gorchudd wyneb 3 haen
Faint o blant fydd yn gallu teithio ar bob bws?
Bydd pob sedd ar gael i'w defnyddio ar wahân i'r rhes flaen ar fysiau mwy (16+ sedd). Er enghraifft, ar fws 53 sedd, bydd 49 o ddisgyblion yn gallu teithio ac ar fws 70 sedd, bydd 65 o ddisgyblion yn gallu teithio.
A fydd cludiant rhatach ar gael?
Oes, ond fel sy'n wir bob blwyddyn efallai na fyddwn yn gallu cynnig y rhain tan yn ddiweddarach ym mis Medi, oherwydd nad ydym wedi cadarnhau niferoedd o fyfyrwyr 6ed dosbarth sy’n dychwelyd i'r ysgol nes iddynt fynd yn ôl yn gorfforol. Fodd bynnag, ble allwn yn bendant nodi capasiti dros ben, byddwn yn ceisio danfon cymaint o docynnau rhatach ag y gallwn. Ar gyfer y llwybrau hynny ble mae niferoedd disgyblion ar bapur yn uchel iawn, bydd yn rhaid i ni aros hyd nes bydd yr ysgolion yn dechrau'n ôl i'n galluogi i gadarnhau pa lefydd sydd ar gael. Rydym yn gwerthfawrogi y gallai hyn roi pwysau ar rai teuluoedd ond gofynnwn i rieni fod yn amyneddgar a byddwn yn ymateb i bob cais am le rhatach cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl.
A fydd mwy o drafnidiaeth gyhoeddus?
Yn y rhan fwyaf o achosion ble mae disgyblion sy'n gymwys i gael cludiant i'r ysgol yn teithio ar fysiau gwasanaeth cyhoeddus, oherwydd capasiti isel ar y cerbydau hyn, byddwn yn rhoi cerbydau amnewid ar waith dros dro i sicrhau bod lle iddynt deithio bob amser. Bydd yn rhaid i'r disgyblion nad oes ganddynt hawl i gludiant i'r ysgol ond sy'n defnyddio cludiant cyhoeddus i gyrraedd yr ysgol, barhau i'w ddefnyddio neu ddod o hyd i ddulliau amgen o gyrraedd yr ysgol.
Sut y bydd trafnidiaeth yn edrych i ysgolion arbennig a'r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol?
Gan nad oes ymbellhau cymdeithasol, bydd y cerbydau yn ôl i'r capasiti llawn. Fodd bynnag, mae'r canllawiau ar gyfer cludiant ADY yn aros yr un fath ag uchod gan fod rhieni'n dal i gael eu cynghori i gludo eu plant lle bynnag y bo modd gan ddefnyddio teithio llesol lle bynnag y bo modd ac ati. Bydd yn ofynnol i Yrwyr a Chynorthwywyr Teithwyr wisgo cyfarpar diogelu personol oherwydd yr angen i fod yn agos at y plant i gyflawni eu rôl.
Canllawiau yn ôl Ysgol
B
C
F
Ysgol Gynradd Gymunedol Fenton
G
H
J
Ysgol Gynradd Gymunedol Johnston
L
M
Ysgol Gatholig Mary Immaculate
Ysgol Gynradd Gymunedol Aberdaugleddau
Ysgol Gynradd Gymunedol Monkton Priory
N
Ysgol Gynradd Gymunedol Arberth
P
Ysgol Gynradd Gymunedol Prendergast
R
S
Ysgol Gynradd Gymunedol Sageston
Ysgol Gynradd Gymunedol Saundersfoot
Ysgol Gynradd Gymunedol Stepaside
T
Ysgol Gynradd Gymunedol Tafarnspite
Ysgol Gynradd Dinbych y Pysgod
W
Ysgol Gynradd Gymunedol Caisblaidd
Y
Ysgol Cymunedol Brynconin
Ysgol Gynradd Cymunedol Eglwswrw
Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Penrhyn Dewi (VA)
Covid-19 - Cwestiynau Cyffredin Ysgolion
Datblygwyd y cwestiynau cyffredin canlynol i ateb mwyafrif eich ymholiadau ar hyn o bryd.
Os bydd gennych ymholiad ynghylch ysgol eich plentyn, cysylltwch â’r ysgol yn uniongyrchol.
Beth yw’r cynlluniau o ran gweithredu mewn ysgolion ym mis Medi?
Beth ddylwn I ei wneud os yw fy mhlentyn yn cael canlyniad prawf positif yn ystod gwyliau’r haf?
Beth yw profi llif unffordd a phwy sy’n gymwys i’e gael?
Am faint o amser y mae angen inni hunanynysu?
Beth yw’r cynlluniau o ran gweithredu mewn ysgolion ym mis Medi?
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro cyfraddau achosion COVID ledled Cymru, a sut maent yn berthnasol i dderbyniadau i'r ysbyty. Mae llwyddiant y rhaglen frechu yn rhoi rheswm i fod yn optimistaidd am y dyfodol, ac wrth i gyfyngiadau gael eu llacio ledled y gymdeithas ehangach, dylai lleoliadau addysgol ddilyn patrwm tebyg.
Mae tri phrif newid yn cael eu cynnig i ddod â rhywfaint o normalrwydd yn ôl i addysg cyn tymor newydd yr hydref. Dyma nhw:
- Ni fydd gorchuddion wyneb yn cael eu hargymell fel mater o drefn mwyach mewn ystafelloedd dosbarth mewn ysgolion uwchradd; ond byddant yn cael eu hannog mewn ardaloedd cymunedol a byddant yn parhau i fod yn ofynnol ar gludiant i'r ysgol.
- Ni fydd angen grwpiau cyswllt mwyach a defnyddir y broses Profi, Olrhain a Diogelu i nodi cysylltiadau agos dysgwyr sydd wedi profi'n bositif.
- Bydd amseroedd sesiynau arferol yr ysgol yn ailddechrau.
Mae cyngor newydd wedi'i gyhoeddi ar y newidiadau allweddol i ysgolion o fis Medi ynghyd â Chanllawiau Gweithredol wedi'u diweddaru sy'n rhoi rhagor o fanylion.
Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi Fframwaith Penderfyniadau Rheoli Heintiau COVID-19 Lleol ar ddechrau tymor yr hydref fel bod gan ysgolion amser i sefydlu systemau newydd yn ystod yr wythnosau sy'n dilyn. Bydd y fframwaith yn galluogi ysgolion i deilwra rhai o'r ymyriadau i adlewyrchu lefel y risg a nodwyd yn lleol, gyda chefnogaeth swyddogion iechyd cyhoeddus ac awdurdodau lleol i sicrhau bod mesurau'n briodol i'w hamgylchiadau.
Rydym eisoes wedi cwrdd â Phenaethiaid i drafod y newidiadau hyn a byddwn ni'n gweithio'n agos gydag arweinwyr ein hysgolion i wneud y newidiadau ac i barhau i sicrhau diogelwch ein dysgwyr a'n staff.
Mae'n hanfodol ein bod ni i gyd yn parhau i ddilyn y canllawiau mewn perthynas â hunanynysu ac yn golchi ein dwylo'n aml er mwyn lleihau'r potensial o drosglwyddo'r feirws yn ein hysgolion.
Beth ddylwn I ei wneud os yw fy mhlentyn yn cael canlyniad prawf positif yn ystod gwyliau’r haf?
Mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni os yw eich plentyn yn cael prawf cadarnhaol dros y gwyliau, rhowch wybod i ni drwy e-bostio communicabledisease@pembrokeshire.gov.uk gan ddarparu enw, grŵp blwyddyn ac ysgol eich plentyn.
Beth yw profi llif unffordd a phwy sy’n gymwys i’e gael?
Mae holl staff ysgolion a disgyblion ysgolion uwchradd yn cael cynnig profion llif unffordd y gallent eu gwneud gartref ddwywaith yr wythnos.
Y nod yw nodi'r rhai sy'n cario'r feirws heb sylweddoli hynny fel y gallant hunanynysu. Mae symptomau ysgafn, neu hyd yn oed dim symptomau, gan lawer o bobl sydd â COVID-19, ond gallant ledaenu'r feirws o hyd. Drwy hunan-brofi'n rheolaidd, gallwn helpu i arafu lledaeniad y feirws a helpu i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed yn ein teuluoedd a'n cymunedau.
Mae hunan-brofi ar gyfer COVID-19 yn syml, yn gyflym a gellir gwneud y prawf gartref heb fod angen mynd i ganolfan brofi neu bostio samplau i labordy i'w dadansoddi.
Mae dyfeisiau llif unffordd yn hawdd i'w defnyddio ac yn rhoi canlyniadau o fewn 30 munud.
Mae profion yn wirfoddol, ond anogir unigolion yn gryf i fanteisio ar y cynnig i leihau ymhellach y risg o drosglwyddo ymhlith y rhai nad ydynt yn dangos unrhyw symptomau.
Mae'n bwysig cofio mai diben y profion yw ategu'r mesurau diogelwch sydd eisoes wedi'u rhoi ar waith mewn ysgolion i ganiatáu dysgu wyneb yn wyneb, megis cadw pellter cymdeithasol a gwisgo gorchuddion wyneb. Hefyd, os bydd canlyniad y prawf LFD yn negyddol, nid yw hynny'n golygu y gallwch ymlacio neu anwybyddu rheolau cadw pellter cymdeithasol neu fesurau eraill i helpu i atal trosglwyddiad y feirws - offeryn ychwanegol yw prawf llif unffordd sy'n cyfrannu at leihau'r risg.
Gellir casglu'r pecynnau profi o'ch ysgol, a fydd hefyd yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi ynghylch pryd a sut i wneud y profion a sut i gofnodi'r canlyniadau, a beth ddylech ei wneud os byddwch yn cael prawf positif.
Ceir rhagor o wybodaeth am brofion llif unffordd mewn ysgolion gan gynnwys rhai Cwestiynau Cyffredin defnyddiol ar Llywodraeth Cymru.
Am faint o amser y mae angen inni hunanynysu?
Mae'n hanfodol bod unrhyw un sydd â symptomau COVID-19, neu unigolion sy'n rhannu aelwyd ag unrhyw un sydd â symptomau, yn hunanynysu, hyd yn oed os yw'r symptomau'n wan. I ddiogelu eraill, mae'n rhaid ichi beidio â mynychu'r ysgol, y feithrinfa, lleoliadau gofal plant eraill, y gwaith, na mynd i leoedd megis meddygfa, fferyllfa neu ysbyty.
Mae'n rhaid i unrhyw un sydd â symptomau hunanynysu am 10 niwrnod o'r adeg y mae'r symptomau'n dechrau. Gall yr unigolyn ddychwelyd i'r ysgol neu i'r gwaith ar ôl 10 niwrnod os yw'n ddigon iach i wneud hynny.
Mae'n rhaid i unrhyw un ar yr aelwyd nad oes ganddo symptomau hunanynysu am 10 diwrnod o'r adeg y dechreuodd yr unigolyn cyntaf gael symptomau.
Os yw rhiant yn barnu bod gan ei blentyn symptomau OND ei fod yn dewis peidio â rhoi'r plentyn drwy'r profiad o gael prawf, mae'n rhaid i holl aelodau'r aelwyd hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl i'r symptomau ddechrau.
Os yw canlyniad y prawf yn bositif, bydd y Tîm Profi, Olrhain, Diogelu yn cysylltu â chi i roi cyngor pellach.
Os yw canlyniad y prawf yn negyddol, gall y cyfnod hunanynysu ddod i ben i bawb, gall plant ddychwelyd i'r ysgol a gall rhieni ddychwelyd i'r gwaith os ydynt yn ddigon iach i wneud hynny, a chyn belled nad oes neb arall ar yr aelwyd wedi datblygu symptomau.
Mae rhieni a gofalwyr ar incwm isel y mae eu plant yn gorfod hunanynysu yn gymwys bellach i gael taliad cymorth o £500.
Diweddariad ysgolion
Ein prif flaenoriaeth bob amser oedd diogelwch y plant, eu teuluoedd a staff yr ysgolion a bydd hyn yn parhau i fod yn brif ystyriaeth wrth i ni ddechrau ar y cyfnod o adfer.
Gallwn eich sicrhau ein bod wedi gweithio'n galed i roi cynlluniau ar waith am ein hysgolion. Diolch i chi am eich cefnogaeth a'ch cydweithrediad parhaus.
Ewch i'r tudalennau eraill ar y wefan hon i gael rhagor o wybodaeth, sy'n cael eu diweddaru'n rheolaidd.
Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i deuluoedd a dysgwyr barhau i ddilyn y canllawiau ar ynysu, profi a brechu, er mwyn lleihau'r risg o ledu COVID-19 yn ein lleoliadau addysg.
- Cael y brechlyn os yw'n cael ei gynnig i chi.
- Golchi dwylo'n rheolaidd.
- Dylai unrhyw staff neu ddysgwr sydd â symptomau COVID-19 - waeth pa mor ysgafn – aros gartref a threfnu prawf PCR yn eu canolfan brofi agosaf.
- Dylai staff mewn ysgolion cynradd - a staff a dysgwyr mewn ysgolion uwchradd a cholegau – sydd heb symptomau gymryd dau brawf llif unffordd, tri diwrnod ar wahân, yn ystod yr wythnos cyn eu diwrnod cyntaf yn ôl. Os yw'r prawf yn gadarnhaol dylent hunanynysu, a threfnu prawf PCR.
- Ar ddechrau’r tymor newydd, dylai staff mewn ysgolion cynradd a staff a dysgwyr mewn ysgolion uwchradd a cholegau nad ydynt yn dangos symptomau barhau i gymryd profion llif unffordd cyflym rheolaidd ddwywaith yr wythnos, ac adrodd ar y canlyniadau ar-lein.
- Dylai Dysgwyr Blynyddoedd 7 ac uwch barhau i wisgo gorchuddion wyneb ar gludiant i’r ysgol a choleg.