Mae'r Tîm Plant gydag Anableddau'n gweithio gyda phlant (rhwng oed 0 a 18 oed) sydd ag anableddau cymhleth neu sylweddol. Nodau'r tîm yw:
Cysylltiadau Defnyddiol
Dewis Cymru y w’rlle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall
Fforwm Cymru Gyfan i Rieni a Gofalwyr Pobl ag Anableddau Dysgu (FfCG)
Bywyd yn ystod y Cyfnod Cloi i Deuluoedd Anabledd Dysgu yng Nghymru
Mae Deddf Plant 1989 yn diffinio plant gydag anableddau fel ‘plant anghenus' oherwydd eu hanabledd. Caiff rhai o'r plant hyn eu hasesu hefyd fel rhai gydag anghenion sylweddol neu ddybryd all ofyn cefnogaeth arbenigol y Tîm Plant gydag Anableddau, yn ogystal â gwasanaethau cyffredinol a phenodol. Plant sydd â hawl i'r gefnogaeth hon yw'r rhai gydag anableddau neu afiechydon difrifol a pharhaol sy'n byw yn Sir Benfro, gan gynnwys:
Fe all plant eraill gydag anableddau fod ag anghenion ychwanegol ond bod effaith eu hanabledd ar eu trefniadau byw bob dydd yn golygu nad oes arnynt angen cymorth arbenigol statudol a bod modd diwallu eu hanghenion yn briodol gyda chymorth ychwanegol gwasanaethau cyffredinol neu benodol.
Cysylltiadau Defnyddiol
Dewis Cymru y w’rlle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall
Caiff holl gyfeirebau at y Tîm Plant gydag Anableddau eu gwneud trwy gysylltu â'r Tîm Asesu Gofal Plant. Dylai gweithwyr proffesiynol sy'n gwneud cyfeirebau ddefnyddio'r Ffurflen Rhwng Asiantaethau. O dderbyn cyfeireb bydd gweithiwr yn cael ei neilltuo i asesu'r plentyn a'r teulu.
Mae hyn oherwydd nad oes ar holl blant a theuluoedd angen yr un faint o gefnogaeth; mae ar rai angen mwy nag eraill oherwydd natur anabledd y plentyn ac amgylchiadau teuluol. Mae asesiad yn helpu inni sicrhau ein bod yn rhoi'r cymorth a gwasanaethau cywir ar yr adeg iawn.
Caiff plant a phobl ifanc anabl eu hasesu yng nghyd-destun effaith unrhyw amhariad ar ansawdd eu bywydau nhw a'u teuluoedd. Diben asesiad yw casglu gwybodaeth i ddadansoddi anghenion plentyn a phenderfynu a oes angen cymorth. Gwnawn hyn trwy siarad â rhieni / gofalwyr a'r plentyn. Gyda chaniatâd, byddwn yn cadw cyswllt agos â gweithwyr proffesiynol eraill fel athrawon, ymwelwyr iechyd, meddygon a gweithwyr asiantaethau gwirfoddol sy'n ymwneud â'r plentyn neu'r teulu.
Cynnwys yr asesiad - Asesiad gofalwyr
Yn dilyn asesiad, bydd y gweithiwr allweddol neu'r gweithiwr cymdeithasol yn trafod y math o gymorth a gwasanaethau a allai ddiwallu eich anghenion gyda chi. Os yw eich asesiad yn awgrymu neu os byddwch yn gofyn am wasanaeth arbenigol penodol, caiff y penderfyniad i ddarparu'r gwasanaeth ei wneud mewn Panel Gwasanaethau Integredig. Yn y panel hwn bydd rheolwyr o'r Tîm Plant gydag Anableddau, y Tîm Cynhwysiad a rhai o ddarparwyr y Gwasanaeth yn bresennol. Mae'r broses hon yn sicrhau y caiff penderfyniadau eu gwneud mewn ffordd deg ac agored.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r:
Tîm Asesu Gofal Plant ar 01437 764551
Defnyddwyr gwasanaeth presennol, cysylltwch â:
Tracy Allison
Rheolwr Gwasanaeth Integredig Dro, Tîm Plant gydag Anableddau
Ffôn: 01437 776350
Mae tair haen o wasanaeth ar gael
a) Gwasanaethau Cyffredinol
Mae'r rhain yn wasanaethau sydd ar gael i holl blant a phobl ifanc fel addysg, gwasanaethau meddyg teulu, ymwelwyr iechyd, gweithgareddau cymunedol, canolfannau ieuenctid, canolfannau chwaraeon a hamdden, clybiau ar ôl yr ysgol a gweithgareddau chwarae. Y gwasanaethau hyn fydd y cyswllt cyntaf i deuluoedd. Rydym yn hyrwyddo cynhwysiad ac yn cynnal gwasanaethau cyffredinol i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc anabl. Nid oes angen asesiad i gael y gwasanaethau hyn.
b) Gwasanaethau Penodol.
Gwasanaethau cymorth cynnar yw'r gwasanaethau hyn pan fo angen cymorth ychwanegol a chymorth mwy nag un asiantaeth yn aml ar blant a theuluoedd (h.y. TAPPAS/TAF).
c) Gwasanaethau Arbenigol
Gwasanaethau yw'r rhain sydd ar gael i blant a theuluoedd yr aseswyd eu bod yn cyrraedd meini prawf Gwasanaethau Integredig / Tîm Plant gydag Anableddau'r Cyngor neu ganllawiau Gofal Parhaus y GIG.
Mae'r gwasanaethau hyn hefyd yn cynnwys: