Agor i bob cerbyd
Mae Pont Cleddau ar agor i bob cerbyd ar hyn o bryd
Beth sy’n cael ei ddosbarthu fel Cerbyd Uchel?
Cerbydau Uchel yw unrhyw gerbydau sydd â phrif gorff neu gaban uwch nag 1.9m. Mae modd diystyried unrhyw allwthiadau bach uwchlaw’r lefel hon h.y. goleuadau, erialau neu reseli bach gwag ar y to neu fariau ac ati.
Caiff lorïau, faniau Transit, bysiau mini, Land Rovers, carafanau, ôl-gerbydau a llwythi ar reseli pen to a allai deimlo effaith y gwynt, neu debyg, eu dosbarthu fel cerbydau uchel ac ni chânt groesi’r bont.
Caiff beiciau a beiciau modur hefyd eu dosbarthu fel “mewn perygl” a’r cyngor yw peidio â chroesi’r bont pan fydd ar gau i gerbydau uchel.
Cael gwybod am statws y bont
Oeddech chi'n gwybod y gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am statws y bont drwy'r e-bost neu drwy decstio ‘PONT' i 80039 (byddwch yn talu pris arferol y rhwydwaith).
I dderbyn e-bost, dilynwch y cyfarwyddiadau isod:-
1. Creu cyfrif ar-lein
2. Mewngofnodwch i'ch cyfrif a chlicio'r eicon "Fy Nghyfrif".
3. Yna cliciwch, ‘Hysbysiadau Cau Pont Cleddau'