Mae’n hanfodol bod pobl ifanc ac oedolion sy’n agored i niwed sy’n cymryd rhan mewn prosiectau yn cael eu hamddiffyn ac mewn amgylchedd diogel.
Mae dyletswydd gyfreithiol a chyfrifoldeb ar drefnwyr a phwyllgorau rheoli i ddiogelu plant, oedolion ifanc a phobl hyn sy’n agored i niwed; er mwyn sicrhau bod arferion hyrwyddo diogelwch mewn lle ac i gefnogi gweithwyr a gwirfoddolwyr i ddilyn gweithdrefnau perthnasol.
Bydd Cyngor Sir Penfro ac arianwyr angen i chi sicrhau bod gan brosiectau bolisïau diogelu ac amddiffyn. Mae’r polisïau rhain yn dangos eich bod wedi ystyried sut y gall plant ac oedolion o bosib gael unrhyw niwed wrth fod yn rhan o’ch prosiect a pha fesurau sydd yn eu lle er mwyn eu hamddiffyn.
Am ganllawiau ar ddatblygu polisïau diogelu ac amddiffyn, cymerwch olwg ar y dolenni canlynol: