Prosiect tyfu bwyd: gweithgaredd gwych i ysgolion, grwpiau cymunedol neu hyd yn oed grŵp o fwytai lleol sydd am dyfu eu cynnyrch eu hunain.
Gardd law: gall leihau llifogi ac erydu a darparu cynefin bywyd gwyllt. Mae'n ffordd ecogyfeillgar a deniadol o arafu proses dŵr glaw ffo a hidlo llygryddion.
Marchnad dros dro: gallai stondinau marchnad symudol cael eu defnyddio gan aelodau o'r gymuned i werthu cynnyrch a chrefftau lleol.
Fferm solar: wrth helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd, gall y fferm hon ddarparu ynni ac incwm i gymuned. Gall y bylchau rhwng y paneli gael eu defnyddio i blannu blodau gwyllt.
Dolydd blodau gwyllt: ffordd wych o ddarparu cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt mewn lleoliadau trefol. Mae'n gwella ymddangosiad tir gwag gydag ychydig iawn o draul neu effaith ar y safle.
Man perfformio: gallai gael ei dirlunio o bosibl ar gyfer defnydd dros dro i grwpiau theatr neu ddigwyddiadau cymunedol yn yr awyr agored.
Man ar gyfer digwyddiadau: ar gyfer digwyddiadau cymunedol dros dro fel gweithdai ail-greu neu gynnal a chadw beiciau, cyfnewid llyfrau a theganau, neu sioe deithiol gwasanaethau lleol.
Campfa awyr agored: Gall hyn annog i wella ffitrwydd corfforol aelodau'r gymuned o bob oedran. Gellir creu cyfarpar o ddeunyddiau naturiol fel eu bod yn cael llai o effaith ar y safle.
Campfa werdd: yn cynnig y cyfle i fwynhau gweithgarwch corfforol yn yr awyr agored wrth ddysgu am gadwraeth amgylcheddol a gwella'r amgylchedd lleol.
Ardal chwarae naturiol: ar gyfer plant gan annog gweithgarwch corfforol, dysgu yn yr awyr agored a man cymdeithasol. Mae defnyddio deunyddiau naturiol gan gynnwys boncyffion, bwâu helygen a thomenni glaswelltog yn eithaf rhad ac yn hawdd gofalu amdanynt.
Gardd Gymunedol: caiff ei rhannu gan aelodau'r gymuned gyda phwyllgor sy'n cymryd cyfrifoldeb am reoli'r ardd, sut mae'n cael ei diogelu a sut mae aelodau yn cael mynediad iddi. Mae'r aelodau'n cadw plot neu gynhwysydd, sy'n llai na rhandir fel arfer, i dyfu'r hyn y mynnant. Mae hefyd yn syniad i gael rywle diogel i storio offer a rennir.
fwy o wybodaeth:
Cael gafael ar gyngor ar Dir ar gyfer grwpiau cymunedol
Pecyn Adnoddau Tyfu Cymunedol Cymru
Gweithio ar y cyd a Dylunio dan arweiniad y Gymuned
Manteisio i'r Eithaf ar Dirwedd
Sefydlu eich gardd gymunedol
Ewch amdani - tyfwch
Rheoli Mannau Gwyrdd
Ymgysylltu a Chyfranogiad
Enghreifftiau Diddorol ar Ysbrydoledig
Pier Hastings - Enghraifft o gyfranddaliadau cymunedol