Mae Cyngor Sir Penfro [y Cyngor] o'r farn y gall plant o oedran ysgol gorfodol gael budd o brofiad a gafwyd yn cyflawni gwaith, ar yr amod y bydd y gwaith yn addas a bod trefniadau diogelu priodol ar waith. Y dyddiad swyddogol ar gyfer gadael yr ysgol yw dydd Gwener olaf mis Mehefin yn ystod y flwyddyn ysgol y mae'r disgybl yn 16 oed. Cyn y dyddiad hwn, rhaid i blant rhwng 13 ac 16 oed gael trwydded waith gan y Cyngor os byddant am gael eu cyflogi.
Mae gan y Cyngor gyfres o is-ddeddfau sy'n nodi'r amodau y gellir cyflogi plant o oedran ysgol gorfodol. Mae'r gofynion cyfreithiol hyn yn cynnwys ei gwneud yn ofynnol i'r cyflogwr anfon hysbysiad i'r Cyngor am gyflogaeth y plentyn yn cynnwys rhai manylion gofynnol, yn hynny o beth.
Rhaid i'r ffurflen gais hysbysu gael ei chwblhau gan riant a'r cyflogwr, a'i chyflwyno i'r Prif Swyddog Lles Addysg yn y Gwasanaeth Lles Addysg i'w hystyried.
Dim ond ar ôl hynny y bydd y Cyngor yn anfon trwydded waith at y plentyn, os yw wedi’i fodloni bod y gyflogaeth arfaethedig yn gyfreithlon ac na fyddai lles, iechyd na gallu'r plentyn i fanteisio'n llawn ar ei (h)addysg yn cael ei beryglu, a bod y plentyn yn addas i gyflawni'r gwaith y bydd yn ei wneud. Dim ond yn unol â'r manylion a ddangosir ar drwydded waith y plentyn y gellir cyflogi'r plentyn.
Gellir lawrlwytho canllawiau ar Gyflogi Plant ar gyfer cyflogwyr, rhieni a disgyblion a'r Ffurflen Gais Hysbysu o'r dolenni isod. Gallwch wneud cais am gopi o'r is-ddeddfau gan y Prif Swyddog Lles Addysg.
Manylion Cyswllt:
Cara Huggins, Prif Swyddog Lles Addysg
Caroline.huggins@pembrokeshire.gov.uk
01437 764551
Cyfarwyddiaeth Plant ac Ysgolion,
Cyngor Sir Penfro
Freemans Way
Hwlffordd
Sir Benfro
SA611TP
Trwydded Perfformio Plentyn
Mae'r ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu plant mewn adloniant yn ymdrin â phlant o'u genedigaeth i oed gadael ysgol (dydd Gwener diwethaf ym mis Mehefin y flwyddyn ysgol pan fydd plentyn yn cyrraedd 16 oed).
Y gofyniad i drwyddedu:
Mae'r ddeddfwriaeth yn gofyn i Drwyddedau Perfformio gael eu cyhoeddi gan bob Awdurdod Lleol i blant sy'n cymryd rhan yn y categorïau a ganlyn:
Yr unigolyn sy'n gyfrifol am gynhyrchu perfformiad ble mae'r plentyn yn cymryd rhan ddylai wneud y cais am y drwydded.
Rhaid i'r cais gael ei wneud i Gyngor Sir Penfro a fydd yn prosesu'r cais.
Pa bryd NAD oes angen trwydded i berfformio ar blentyn?
Os nad oes angen Trwydded Perfformio Plant rydym yn dal i ofyn i drefnydd y perfformiad/sioe gofrestru pob plentyn sy'n cymryd rhan. Mae hyn yn caniatáu i ni gadw cofrestr o holl blant Sir Benfro sy'n cymryd rhan mewn perfformiad. Hyd yn oed os nad oes angen trwydded, mae rhan fwyaf y rheolau a'r rheoliadau yn parhau yn gymwys.
Rhaid i'r ffurflenni cais wedi'u llanw ynghyd â'r holl ddogfennau gael eu cyflwyno i'r Uned Cymorth Busnes, 21 diwrnod cyn y dyddiad y mae eu hangen. Rhaid i'r Awdurdod Lleol fod yn fodlon bod trefniadau sydd yn eu lle ar gyfer goruchwylio ac amddiffyn y plentyn yn ddigonol a bod yr aflonyddwch i addysg y plentyn yn cael ei gadw i'r lleiafswm, cyn caniatáu trwydded. Yr unigolyn a fydd yn gwneud cais am y drwydded fydd y deiliad trwydded a bydd yn gyfrifol am sicrhau bod amodau'r drwydded yn cael eu bodloni.
Gellir lawrlwytho ffurflen Ymgeisio am Drwydded Perfformio trwy glicio ar y ddolen. Ffurflen Gais Trwydded Perfformio Plentyn
Mae gwybodaeth ychwanegol, y meini prawf ar gyfer trwyddedu a chyngor pellach i'w cael trwy anfon e-bost at youthadmin@pemrokeshire.gov.uk
Os ydych chi angen siarad â rhywun yn ymwneud â Thrwyddedau Perfformio Plant, gallwch gysylltu â Gweinydd Ieuenctid ar 01437 775813.
Ffurflen Gais Trwydded Perfformio Plentyn
I gael rhagor o wybodaeth, gallwch ddarllen ein Hysbysiad Preifatrwydd yma
Mae'r hysbysiad hwn yn egluro pam ein bod yn casglu ac yn cadw eich gwybodaeth bersonol, sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio a beth y byddwn yn ei wneud gyda'r wybodaeth a gasglwn