Presenoldeb Ysgolion a Lles Disgyblion

Grant Datblygu Disgyblion (Mynediad) a mwy Sir Benfro

Mae Grant Datblygu Disgyblion a Mwy Sir Benfro yn gynllun gan Gyngor Sir Penfro i gynorthwyo rhieni mewn amgylchiadau anodd gyda gwisg ysgol.

O Ebrill 2019, bydd Cyngor Sir Penfro yn cynnig grant o hyd at £125 y pen i ddisgyblion oedran ysgol statudol ar gyfer:

  •  Gwisg ysgol, gan gynnwys cotiau ac esgidiau.
  • Dillad chwaraeon ysgol, gan gynnwys esgidiau
  • Gwisg ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r Sgowtiaid, y Geidiaid, y cadetiaid, crefft ymladd, chwaraeon, y celfyddydau perfformio neu ddawns.
  • Offer, e.e. bagiau ysgol a deunyddiau ysgrifennu.
  • Offer arbenigol pan fydd gweithgareddau newydd yn y cwricwlwm yn dechrau, fel dylunio a thechnoleg.
  • Offer ar gyfer teithio y tu allan i oriau ysgol, fel dysgu yn yr awyr agored, e.e. cotiau glaw.

Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr, ac mae ychydig o ddewis ynghylch yr hyn y gellid ei ariannu – ond mae'n rhaid iddo fod yn rhywbeth a fydd yn cefnogi cyflawniad y plentyn. Bydd penderfyniadau ar geisiadau yn cael eu gwneud gan y Swyddog Cymorth Disgyblion ar gyfer eich ysgol.

Gall esiamplau o amgylchiadau anodd gynnwys:

  •  Teuluoedd yn profi cyfnod o bontio i Gredyd Cynhwysol ac yn profi oedi sylweddol mewn cael eu taliadau budd-dal.
  • Colli eiddo yn sgil digwyddiad y tu hwnt i'ch rheolaeth, fel tân neu lifogydd.
  • Plentyn sy’n gorfod symud ysgol ar fyr rybudd ar gyngor yr awdurdod lleol.

Cymorth arall i aelwydydd incwm isel

Mae ffynonellau cyfyngedig posib eraill ar gyfer cymorth ariannol:

Efallai y bydd rhieni sy’n cael

  • Cymhorthdal Incwm Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
  • Credyd Pensiwn

neu daliad oherwydd un o'r budd-daliadau neu hawliau hyn am o leiaf 26 wythnos yn gallu ceisio am fenthyciad cyllidebu cronfa gymdeithasol o dan y categori dillad ac esgidiau gan y Ganolfan Byd Gwaith. Gall hawlwyr sy'n hawlio Credyd Cynhwysol ar hyn o bryd geisio am Flaendal Cyllidebu.

Efallai y bydd cymorth ar gael oddi wrth gyrff llywodraethu neu gymdeithasau rhieni ysgolion. Gall hwn fod yn gymorth ariannol o gronfa galedi, cynllun cynilo, neu drwy ddarparu dillad ail-law.

 

ID: 8504, adolygwyd 20/01/2022