Mae pob ysgol yn Sir Benfro'n derbyn cefnogaeth aelod o dîm Swyddogion Cefnogi Disgyblion, sy'n darparu cyswllt rhwng yr ysgol, y Gwasanaeth Addysg a theuluoedd y disgyblion.
Prif dasg y Swyddog Cefnogi Disgyblion yw annog presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol. Gall y Swyddog Cefnogi Disgyblion gynnig cyngor a gwybodaeth i helpu rhieni yn eu gorchwyl o sicrhau bod eu plentyn yn mynd i'r ysgol. Maent yn gallu cynghori hefyd ynghylch gwasanaethau cymorth eraill pan fo problem wedi ei gweld o ran cyfyngu ar fynediad disgybl i addysg neu mewn perthynas â materion cymdeithasol a lles.
Gall y gwasanaeth hefyd rhoi cyngor ynghylch y cyfyngiadau a'r rheoliadau sy'n berthnasol i gyflogi plant o oedran gorfodol ysgol.
Gall Swyddogion Cefnogi Disgyblion y Gwasanaeth Cynhwysiad ddarparu llyfrynnau gwybodaeth i rieni, ynglŷn â materion yn ymwneud â phresenoldeb yn yr ysgol a’u cyfrifoldebau o ran sicrhau presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol yn unol â’r gyfraith; mae’r Swyddogion Cefnogi Disgyblion yn cynorthwyo rhieni i gyflawni’r swyddogaeth hon.
Gellir cysylltu â'r Swyddogion Cefnogi Disgyblion drwy'r ysgol neu'r Gwasanaeth Addysg yn Neuadd y Sir.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
Cara Huggins
Prif Swyddog Lles Addysg
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
Ffôn: 01437 764551
E-bost: caroline.huggins@pembrokeshire.gov.uk