Cymorth gan y gwasanaeth iechyd
Os ydych yn cael problemau gyda’ch golwg, ewch i weld eich meddyg teulu neu optegydd cyn gynted ag y bo modd. Os oes angen, gallant eich cyfeirio i glinig llygaid neu at offthalmolegydd ymgynghorol.
Bydd eich meddyg teulu neu’r optegydd hefyd yn gallu rhoi manylion am Glinigau Golwg Gwan lle gallwch fenthyca chwyddwydrau neu sbectols arbennig.
Bydd clinigau hefyd yn gallu rhoi manylion i chi am sefydliadau a all gynnig cefnogaeth neu gyngor emosiynol i chi ynglŷn â chyflyrau penodol.
Mae gan Gyngor Sir Penfro dîm o arbenigwyr nam ar y golwg. Mae’r tîm yn gwneud asesiadau ac yn darparu cefnogaeth a gwasanaethau i helpu pobl i ganfod atebion ymarferol i’r problemau bob dydd sy’n codi o ganlyniad i golli golwg. Ffôn 01437 764551.
Os hoffch gael fersiynau sain (tâp neu CD), Braille neu brint bras o unrhyw ddogfennau rydych yn eu cael (e.e. gan eich banc, cymdeithas adeiladu ac ati), siaradwch â’r sefydliad a gofynnwch iddynt ddarparu’r ddogfen. Gall Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion (RNIB) ddarparu trawsgrifidau. Ffôn 0845 702 3153.
Mae Cymdeithas Sir Benfro i’r Deillion yn cefnogi pobl sydd wedi’u cofrestru’n ddall o bob oed ledled y sir, gyda’r nod o wella ansawdd bywyd a hybu annibyniaeth. Mae gwasanaethau a chefnogaeth yn cynnwys:
Ffôn: 01437 781419
RNIB (Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion)
RNIB Cymru, Jones Court, Heol Womanby, Caerdydd, CF10 1BR
Ffôn: 029 2082 8500 neu e-bost: cymru@rnib.org.uk
Llinell Gymorth 0303 123 9999 (Llun i Gwener 8.45am - 6pm, Sadwrn 9am – 4pm)
www.rnib.org.uk
Cymdeithas y Clefyd Macwlaidd
PO Box 1870, Andover, SP10 9AD
Llinell Gymorth: 0300 3030 111
www.macularsociety.org
Cymdeithas Pobl Rhannol Ddall
1 Bennetthorpe, Doncaster, DN2 6AA
Ffôn: 0844 477 4966
www.partsight.org.uk
Action for Blind People
53 Sandgate Street, Llundain, SE15 1LE
Ffôn: 020 7635 4800
www.actionforblindpeople.org.uk
Cymdeithas Cŵn Tywys y Deillion
Ffôn: 0118 983 5555
www.guidedogs.org.uk
Deafblind UK
Deafblind UK Head Office, National Centre for Deafblindness, John & Lucille van Geest Place, Cygnet Road, Hampton, Peterborough, PE7 8FD
Ffôn: 01733 358100
E-bost: info@deafblind.org.uk
www.deafblind.org.uk
Ceir manylion llawn yn Llyfrgelloedd Sir Benfro
Gall unrhyw un sydd ag anabledd:
Ffrindiau neu Deulu
Os yw anabledd neu broblem iechyd yn eich rhwystro rhag mynd i’r llyfrgell yn bersonol, gallwch enwebu rhywun (ffind neu aelod o’r teulu) i ddewis a benthyca llyfrau ar eich rhan. Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw llenwi Ffurflen Ffrindiau neu Deulu a gofyn i’r sawl rydych wedi ei enwebu ei dychwelyd i’r llyfrgell y mae’n bwriadu ei defnyddio.
Ni chodir tâl am eitemau hwyr.
Cyfrifiaduron
Mae mynediad am ddim i’r rhyngrwyd ar gael am hyd at awr y diwrnod ym mhob llyfrgell. Mae meddalwedd Dolphin Supernova, sy’n galluogi pobl rhannol ddall i ddefnyddio’r sgrin, wedi ei osod ar gyfrifiadur ym mhob un o’n llyfrgelloedd.
Llyfrau ar Bresgripsiwn
Cynllun cenedlaethol yw hwn, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Nod y cynllun yw helpu cleifion sydd â phroblemau iechyd meddwl nad ydynt yn rhy ddrwg. Gall meddygon roi llyfr ar bresgripsiwn o restr o deitlau hunangymorth sydd ar gael mewn llyfrgelloedd cyhoeddus.
Ewch â’ch presgripsiwn i lyfrgell leol a chasglwch y llyfr sydd wedi cael ei ragnodi. Os nad oes copi ar gael ar unwaith, bydd staff y llyfrgell yn neilltuo copi ohono ac yn gadael i chi wybod pan fydd y llyfr ar gael.
Cynllun Bibliotherapi i Blant a Theuluoedd
Cynllun cenedlaethol yw hwn, ac mae’n galluogi plentyn sydd â phroblem emosiynol neu seicolegol i gael llyfr wedi ei argymell gan rywun sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda theuluoedd, fel Meddyg Teulu neu Ymwelydd Iechyd.
Mae’r cynllun yn gweithredu yn yr un modd â’r cynllun Llyfrau ar Bresgripsiwn uchod.
Nid oes tâl am ddychwelyd eitemau yn hwyr ar gyfer unrhyw un o’r gwasanaethau uchod. Er hyn, byddai defnyddwyr eraill yn gwerthfawrogi pe bai eitemau’n cael eu dychwelyd mewn pryd. Mae’r cyfarpar a ganlyn ar gael i’r cyhoedd hefyd yn Llyfrgell Gyfeiriol Hwlffordd:
Llyfrau a phapurau newydd llafar
Papurau Newydd Lleol
Mae’r papurau newydd lleol isod yn cynhyrchu fersiwn ar dâp o’r papurau newydd wythnosol:-
1) Western Telegraph
2) Tenby Observer
3) Milford Mercury
Mae’r tapiau’n cael eu danfon am ddim mewn waled blastig a gellir eu dychwelyd am ddim drwy’r post. Gellir trefnu aelodaeth drwy’r Swyddogion Ailsefydlu yn yr adran Gwasanaethau Oedolion.
Papurau Newydd a Chylchgronau Cenedlaethol Llafar
Ffôn 01435 866102
Llyfrgell Sain Calibre
Ffôn 01296 432339
Gwasanaeth Llyfrau Llafar yr RNIB
Ffôn 0845 762 6843
Eitemau i’r Deillion gan y Post Brenhinol
Mae gan y Post Brenhinol gynllun Eitemau i’r Deillion sy’n caniatáu i bobl ddall a rhannol ddall anfon a derbyn eitemau arbenigol drwy’r post am ddim.
Ffôn: 0345 607 6140