Profi, Olrhain, Diogelu yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer profi'r cyhoedd ac olrhain lledaeniad coronafeirws yng Nghymru.
Mae olrhain cysylltiadau yn rhan o'r strategaeth hon. Mae'n ddull llwyddiannus o reoli lledaeniad clefydau heintus.
Mae olrhain y bobl mae person heintiedig wedi bod mewn cysylltiad â nhw yn galluogi'r bobl hynny i gael gwybod am eu risg posibl o gael eu heintio a gallant gael cyngor i atal lledaeniad pellach. Bydd profi ac olrhain cysylltiadau yn hanfodol er mwyn galluogi ein cymunedau i fyw ochr yn ochr â'r feirws yn y dyfodol hyd y gellir rhagweld.
Mae'r strategaeth Profi, Olrhain Diogelu yn golygu bod nifer o bartneriaid yn gweithio gyda'i gilydd i helpu i atal y feirws rhag lledaenu, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, Byrddau Iechyd Lleol, Awdurdodau Lleol yng Nghymru, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) ac eraill. O fewn ein rhanbarth mae Cyngor Sir Penfro yn cydweithio â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Caerfyrddin.
Dolenni Defnyddiol
Profi, Olrhain, Diogelu: Crynodeb o’r broses
Strategaeth ‘Profi Olrhain Diogelu’ Llywodraeth Cymru
Hysbysiad Preifatrwydd
Hysbysiad Preifatrwydd: Covid 19 Olrhain Cysylltiadiadau, Profi, Olrhain Diogelu