Profi Olrhain Diogelu
Coronafeirws – Profi, Olrhain, Diogelu
Profi, Olrhain, Diogelu yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer profi'r cyhoedd ac olrhain lledaeniad coronafeirws yng Nghymru.
Mae olrhain cysylltiadau yn rhan o'r strategaeth hon. Mae'n ddull llwyddiannus o reoli lledaeniad clefydau heintus.
Mae olrhain y bobl mae person heintiedig wedi bod mewn cysylltiad â nhw yn galluogi'r bobl hynny i gael gwybod am eu risg posibl o gael eu heintio a gallant gael cyngor i atal lledaeniad pellach. Bydd profi ac olrhain cysylltiadau yn hanfodol er mwyn galluogi ein cymunedau i fyw ochr yn ochr â'r feirws yn y dyfodol hyd y gellir rhagweld.
Mae'r strategaeth Profi, Olrhain Diogelu yn golygu bod nifer o bartneriaid yn gweithio gyda'i gilydd i helpu i atal y feirws rhag lledaenu, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, Byrddau Iechyd Lleol, Awdurdodau Lleol yng Nghymru, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) ac eraill. O fewn ein rhanbarth mae Cyngor Sir Penfro yn cydweithio â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Caerfyrddin.
Dolenni Defnyddiol
Profi, Olrhain, Diogelu: Crynodeb o’r broses
Strategaeth ‘Profi Olrhain Diogelu’ Llywodraeth Cymru
Hysbysiad Preifatrwydd
Hysbysiad Preifatrwydd: Covid 19 Olrhain Cysylltiadiadau, Profi, Olrhain Diogelu
Profi, Olrhain, Diogelu: Byddwch yn ymwybodol o Alwadau Twyllodrus
Anfonir negeseuon testun olrhain cysylltiadau o NHSWALESTTP, anfonir negeseuon e-bost o CTteam@pembrokeshire.gov.uk a bydd galwadau'n cael eu gwneud o 029 2196 1133. Nid yw swyddogion olrhain cysylltiadau yn monitro lle rydych wedi bod neu'r hyn yr ydych wedi bod yn ei wneud. Ni fyddwch yn cael eich adrodd wrth roi gwybodaeth am eich cysylltiadau a'ch symudiadau. Rydym ond yn defnyddio'r wybodaeth hon i atal lledaeniad y clefyd a nodi mannau peryglus.
Hysbysiad preifatrwydd Profi, Olrhain, Diogelu
Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn egluro sut y bydd Cyngor Sir Penfro gyda'n partneriaid rhanbarthol (fel [EA1] Rheolwyr Data) yn casglu, yn defnyddio ac yn diogelu data personol yn benodol o ran POD a'r pandemig coronafeirws.
Hysbysiad preifatrwydd Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwybodaeth ategol.
Profi am coronafeirws: gwybodaeth preifatrwydd Llywodraeth y DU ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Llywodraethu Gwybodaeth GIG Cymru am sut fydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio yng Nghymru.
Am wybodaeth am rannu data brechiadau rhwng timau iechyd a Phrofi Olrhain Diogelu: Iechyd yng Nghymru
Cysylltiedig Hysbysiad Preifatrwydd