Ein Gwasanaeth Arlwyo sy’n darparu prydau ysgol ac mae ein holl fwydlenni’n dilyn Canllawiau Maethol Cynulliad Cymru ac yn darparu dros draean gofynion maethol ac ynni dyddiol y corff.
Mae’r gwasanaeth yn gweithio gyda chyflenwyr i sicrhau bod holl elfennau’n cyrraedd y safon uchaf, heb ychwanegion niweidiol. Bydd cylchoedd bwydlenni’n newid ddwywaith y flwyddyn ac mae modd arlwyo ar gyfer holl ofynion arbennig o ran lluniaeth, e.e. llysieuol, diabetig, anoddefiad llaeth neu gnau ar gais ysgrifenedig rhieni / gwarcheidwaid.
Ar hyn o bryd mae pryd ysgol gynradd dau gwrs yn costio £2.55 i fabanod a £2.65 i blant iau (yn agored i newid). Mae ein Ysgolion Uwchradd yn darparu gwasanaeth ffreutur fel bod disgyblion yn gallu dewis pa fwyd i’w brynu.
Mae cyfleusterau ar gael yn holl ysgolion cynradd ac uwchradd i blant sydd eisiau dod â chinio pecyn.
Gwasanaeth Rhagarchebu Ysgolion Uwchradd
Bydd gan ddisgyblion yr opsiwn i ragarchebu eu bwyd i’w gasglu amser egwyl neu amser cinio, gan ddefnyddio’r Gwasanaeth Rhagarchebu Vine newydd.