Cofrestrwch nawr…..
Ar gyfer pob un o'r Cyfrifon Arlwyo heb Arian rydych wedi'u hychwanegu at 'Fy Nghyfrif' byddwch yn derbyn e-bost a neges destun AM DDIM pan fydd y balans yn is na £10.00. Byddwch yn cael un hysbysiad yr wythnos hyd nes y bydd credyd ar y cyfrif.
Er mwyn cael hysbysiadau am falans isel dylid:
1) Mewngofnodi i Fy Nghyfrif
2) Clicio ar 'Fy Ngwasanaethau' a dewis 'Fy Hysbysiadau'
3) Ychwanegu 'Hysbysiadau Balans Isel Arlwyo heb Arian' yn yr adran Hysbysiadau Gwasanaeth.
*Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i gwsmeriaid nad ydynt yn talu drwy ddebyd uniongyrchol yn unig!
Cofiwch y bydd credydau yn cymryd 24 awr i ymddangos ar eich cyfrif.
Er mwyn gwirio bod gennym eich cyfeiriad e-bost a rhif ffôn symudol cywir dylid:
1) Mewngofnodi i Fy Nghyfrif
2) Clicio ar y linc 'Golygu' wrth ymyl eich enw
3) Clicio 'Golygu Manylion Cyswllt’
4) Gwirio/golygu eich cyfeiriad e-bost a rhif ffôn symudol
5) Clicio 'Cadw Newidiadau' ar waelod y dudalen
Gallwch weld pa hysbysiadau eraill sydd ar gael drwy ein Gwasanaeth Hysbysu.