Ni fydd prydau ysgol am ddim yn cael eu darparu heblaw i ddisgyblion sy’n derbyn neu y mae eu rhieni’n derbyn un o’r budd-daliadau canlynol:
Sylwch, os ydych yn derbyn Credydau Treth Gwaith yn ogystal ag unrhyw un o’r budd-daliadau hyn, na fydd gennych hawl i brydau am ddim hyd yn oed os yw incwm eich aelwyd dan £16,190*.
* Fel canllaw, caiff incwm blynyddol aelwyd ceisydd ei nodi fel arfer ar DC602 Crynodeb Credydau / Rhybudd Dyfarnu Treth.
Mae ffurflenni cais i’w cael o:
Os ydych eisiau hawlio prydau ysgol am ddim ar gyfer mwy nag un plentyn, nid oes angen cyflwyno mwy nag un ffurflen, hyd yn oed os yw’r plant yn mynychu gwahanol ysgolion yn Sir Benfro.
Bydd gofyn i chi roi tystiolaeth gyfredol o fudd-dal cymwys gyda’r ffurflen gais, hyd yn oed os ydych yn gwneud cais am adnewyddu prydau am ddim. Nid oes modd caniatáu prydau am ddim cyn cyflwyno’r dystiolaeth berthnasol o hawl.
Caiff prydau ysgol am ddim eu dyfarnu am flwyddyn a dylid eu hadnewyddu bob blwyddyn. Pan fo hawl i brydau ysgol am ddim yn dod i ben ar ddiwrnod olaf tymor yr haf, dylid dychwelyd ceisiadau adnewyddu erbyn 31ain Gorffennaf er mwyn sicrhau gallu eu dyfarnu erbyn dechrau tymor yr Hydref.
Nid yw Cyngor Sir Penfro’n caniatáu prydau am ddim i ddisgyblion sy’n mynychu ysgolion oddi allan i Sir Benfro, nac i fyfyrwyr coleg. Dylai disgyblion sy’n byw yn Sir Benfro ac yn mynychu ysgolion mewn siroedd eraill wneud cais i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol.