Oni bai eich bod wedi gwneud hynny eisoes, mae'r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch yn mynnu eich bod yn asesu'r perygl o radon yn eich gweithle chi. Yn gyntaf, bydd rhaid i chi gadarnhau a yw eich busnes mewn ardal y mae radon yn effeithio arni. Yn Sir Benfro, mae'r sir i gyd bron iawn wedi ei dynodi'n ardal yr effeithir arni. Nid yw'n debygol y bydd gweithwyr ar loriau cyntaf adeilad yn unig mewn llawer o gysylltiad â radon, ond mae'n llawer mwy tebygol y bydd trafferthion oherwydd mwy o gysylltiad gan weithwyr mewn seleri, isloriau ac ystafelloedd gydag awyriad gwael ar lefel y ddaear.
Mae'r Asiantaeth Diogelu Iechyd yn cynghori pum cam hanfodol a fydd yn gymorth i gyflogwyr gyflawni eu dyletswydd. Y rhain yw: