Radon yn y Gweithle
Sut ydw i'n mesur lefelau radon?
Yr unig fodd i weld a yw lefelau'r radon yn eich adeilad yn uchel yw mesur y crynodiad yn yr awyr. Unwaith y mae hyn wedi ei wneud byddai asesiad risg yn cael ei wneud i weld a oes angen rhagor o weithredu. Rydym yn disgwyl y bydd ar lai nag 1 o bob 25 o'n gweithleoedd angen gweithredu i leihau lefelau radon, ond lle bynnag y mae ei angen, mae'n cael ei wneud fel arfer gan ddefnyddio dulliau adeiladu safonol.
Mae modd cael mesuriadau o lefelau radon trwy ddefnyddio dognfesuryddion digon rhad yr ydych yn eu harchebu ar-lein a'u derbyn drwy'r post. Yna rydych yn eu gosod mewn rhannau o'ch adeilad - fel arfer am 3 mis. Ar wefan yr Asiantaeth Diogelu Iechyd, www.hpa.org.uk mae manylion diweddaraf y labordai a ddilyswyd sy'n cyflenwi dognfesuryddion fel hyn, ac mae gwybodaeth ymarferol ynghylch lleoli dognfesuryddion a sut i weithredu'n adferol i'w gweld hefyd ar wefan y Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch, www.hse.gov.uk.
Wrth fesur, os gwelwch fod lefel y radon yn is na 400Bq/m³ yr unig beth arall i'w wneud yw penderfynu pa bryd yr adolygir yr asesiad risg. Mewn gweithleoedd gyda phobl ynddynt, os yw'r lefel yn uwch na 400Bq/m³, efallai bydd rhaid i'r cyflogwr weithredu ar unwaith i reoli maint cysylltiad y gweithwyr gyda radon a'i leihau. Yna byddai ymgynghorydd radon arbenigol yn gallu cynghori ynghylch y gweithredu adferol mwyaf priodol.