Mae copïau o wybodaeth o ffeiliau rheoli adeiladu ar gael drwy’r botwm ‘cyflwyno cais’ isod. Cyn cyflwyno cais, dylech ddarllen y wybodaeth bwysig isod.
Mae’r gost i ninnau o berfformio chwiliad o’n cofnodion a darparu copi o dystysgrif gwblhau (sy’n daladwy ar bob eiddo ar wahân) yn £30.72 + TAW (£38.40)
Mae costau ychwanegol am gopïo dogfennau eraill fel a ganlyn:-
A4 du a gwyn - 10c y dudalen.
A4 lliw - 30c y dudalen.
A3 du a gwyn - 20c y dudalen.
A3 lliw - 60c y dudalen.
A2 du a gwyn - 40c y dudalen.
A1 du a gwyn - 80c y dudalen.
A0 du a gwyn - £1.60 y dudalen.
Amser ychwanegol i gopïo dogfennau - Cysylltwch â rheoli adeiladau ar 01437 764551 am ddyfynbris.
Nod codi’r prisiau hyn ydy osgoi baich y costau’n disgyn ar ysgwyddau Trethdalwyr y Cyngor.
Gwybodaeth bwysig.
Lle bo’r ymgeisydd yn unigolyn, mae'n debygol y caiff y rhan fwyaf o'r wybodaeth a gedwir ar y ffeil rheoli adeiladu ei dosbarthu'n ddata personol yn unol â Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. Ni ellir rhyddhau data personol i unrhyw un heblaw am yr ymgeisydd neu ei asiant.