Caiff dadansoddi bwyd, er mwyn canfod a yw bwydydd yn cydymffurfio â'r gofynion cyfredol o ran cyfansoddiad a labelu, ei wneud gan Ddadansoddwr Penodedig yr Awdurdod, Gwasanaethau Gwyddonol Dadansoddwyr Cyhoeddus yn Wolverhampton.
Mae'r Tîm Bwyd yn cynnal samplu arferol a hefyd samplau oherwydd cwynion. Yn gyffredinol, ni fydd samplau sy'n destun cwynion yn cael eu hanfon i'w dadansoddi/archwilio ond pryd y bydd dwyn achos ffurfiol dan ystyriaeth.
Mae'r rhaglen samplu yn canolbwyntio ar feysydd lle credwn y gallai fod problemau, ond mae hefyd yn gwirio gweithgynhyrchwyr Sir Benfro a chyflenwyr eraill.
Ymhlith bwydydd a allai gael eu gwirio mae:
Pan fydd bwydydd yn methu â chydymffurfio â safonau cyfreithiol telir ymweliadau dilynol i edrych i mewn i'r rhesymau posibl am y methiant, a chaiff y safle ei dargedu yn ystod rhaglenni dilynol.
Os amheuir twyll sylweddol, materion diogelwch neu ragfarn defnyddwyr, efallai y dygir achos ffurfiol. Yn nodweddiadol, bydd oddeutu 10% o samplau a dargedwyd heb gydymffurfio â'r safonau a bennwyd, ac mae'r rhain yn aml lle nad yw'r labeli yn adlewyrchu gwir gyfansoddiad y bwyd.