Mae'n hanfodol lleihau effeithiau niweidiol camddefnyddio sylweddau; mae'r effeithiau'n bellgyrhaeddol ac yn effeithio ar blant, pobl ifanc, oedolion, teuluoedd a chymunedau cyfan. Er nad yw troseddau cyffuriol ond yn cyfrif am 9.4% o droseddau cofnodedig ar hyd a lled Sir Benfro, gwyddom mai defnyddwyr cyffuriau sy'n gyfrifol am gyfran fawr o droseddau caffaelgar (lladrad) er mwyn diwallu eu hanghenion cyffuriau. Mae'r niwed sy'n cael ei achosi oherwydd camddefnyddio alcohol yn helaeth; mae troseddu treisiol ymhob rhan o'r Sir yn parhau i fod yn gysylltiedig ag economi'r nos gydag alcohol yn ffactor sylweddol.
Mae Sir Benfro Ddiogelach yn gyfrifol am fynd i'r afael â cham-drin sylweddau ar lefel leol. Mae pob un o'r awdurdodau sy'n gyfrifol am y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn ymrwymedig i fynd i'r afael â phroblemau craidd cam-drin sylweddau, diogelu ein cymunedau a rhoi cymorth i'r rhai hynny sydd ei angen fwyaf. Rydym yn ymdrechu i fynd i'r afael ag anghenion ein poblogaeth ar draws yr holl sbectrwm, o atal niwed hyd at fynd i'r afael â'r anghenion mwyaf cymhleth o ran y gwasanaethau i bobl ifanc ac oedolion.
Mae swm cynyddol yn cael ei fuddsoddi yn lleol er mwyn mynd i'r afael â cham-drin cyffuriau ac alcohol drwy ystod eang o wasanaethau, gan gynnwys:
· Prosiectau addysg ac atal ar gyfer pobl ifanc ac oedolion
· Ymyriadau yn y gymuned o ran cam-drin cyffuriau ac alcohol
· Mynediad at driniaeth breswyl neu glaf preswyl
· Gwasanaeth Triniaeth Cam-drin Sylweddau Integredig i Bobl i fanc
· Cymorth i unigolion sydd wedi mynd i'r afael â cham-drin sylweddau i ailintegreiddio yn y gymuned, addysg a gwaith.
· Mynd i'r afael ag argaeledd a diogelu unigolion a chymunedau
· Sesiynau Un i Un a Grŵp Cwnsela ar gyfer pobl â Phroblemau Cam-drin Sylweddau a Phroblemau Iechyd Meddwl Ysgafn i Gymedrol
Mae llawer o waith cyffrous ac arloesol yn cael ei gynnal yn lleol er mwyn gweithio tuag at Sir Benfro Ddiogelach. Mae'r blaenoriaethau o ran cam-drin sylweddau yn y dyfodol yn cynnwys:
· Gwasanaeth cefnogaeth ddwys ar gyfer pobl ifanc a theuluoedd lle mae cam-drin sylweddau'n problem gydnabyddedig a dyrys
· Cymorth Bydwreigiaeth Arbenigol ar gyfer Teuluoedd Agored i Niwed (Cam-drin Sylweddau a Cham-drin yn y Cartref)
· Cymorth i deuluoedd a gofalwyr camddefnyddwyr sylweddau
· Cynllun Mentora Cyfoedion a fydd yn cynyddu lefel y gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer camddefnyddwyr sylweddau a'u cefnogi tuag at annibyniaeth economaidd drwy fentora gwirfoddol sy'n cael ei reoli'n lleol.
DAN 24-7- yw'r llinell gymorth ffôn ddwyieithog rhad ac am ddim sy'n bwynt cyswllt unigol ar gyfer unrhyw un yng Nghymru sydd am ragor o wybodaeth neu gymorth perthnasol i gyffuriau neu alcohol. Mae ar gael unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos ar:
0800 6335588 or
Bydd y llinell gymorth yn helpu unigolion, eu teuluoedd, gofalwyr a gweithwyr cymorth o fewn y maes cyffuriau ac alcohol i gyrchu'r gwasanaethau lleol a rhanbarthol priodol.
Am ragor o wybodaeth ewch at; Eich iechyd – camddefnyddio sylweddau