Bydd hyn yn cyfeirio adnoddau gwerthfawr oddi wrth wasanaethau eraill y mae Cyngor Sir Penfro yn eu darparu ar ran y gymuned.
Yn ychwanegol, byddai methu â dargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi yn arwain at gostau sy’n gysylltiedig â gwarediadau tirlenwi. Yn 2017/18 roedd y dreth tirlenwi yn unig yn £86.10 y dunnell, ond byddai modd wynebu cosbau ariannol pellach pe byddem yn tirlenwi mwy o wastraff pydradwy na’n lwfans.