Yr amserlen fwyaf tebygol ar gyfer cyflwyno’r gwasanaethau ailgylchu newydd fydd Hydref 2019, ond byddwn yn rhoi gwybod i gartrefi ynghylch unrhyw ddatblygiadau.
Cyn i’r newidiadau ddod i rym, bydd hefyd digon o gyfathrebu gan y Cyngor ynglŷn â’r dulliau newydd o ailgylchu, fel bod pawb yn deall yn iawn sut y bydd y trefniadau yn eu heffeithio.
Mae dwy eitem o’r Adolygiad Gwasanaethau Gwastraff wedi’u gweithredu’n barod:
• Lleihawyd cost casgliadau gwastraff swmpus aelwydydd ar 1 Ebrill 2018 i £20 am gasgliad o hyd at 10 eitem (Dolen i dudalen Casgliadau Gwastraff Swmpus aelwydydd)
• Cofrestrodd y Cyngor i Ymrwymiad Courtauld ar 12 Mehefin 2018