Mae maethu yn fwy na ‘bod yn rhiant' yn unig. Mae'n dîm o bobl sy'n gweithio gyda rhieni a gweithwyr cymdeithasol i ofalu am blant.
Fe fyddwch mewn ambell i sefyllfa a allai fod yn anghyfarwydd neu'n anodd, fel ffarwelio â phlentyn yr ydych wedi meithrin perthynas gadarn ag ef neu hi. Er nad yw pob plentyn neu berson ifanc yn anodd, bydd angen tipyn o ymdrech arnoch chi gydag ambell un oherwydd y gall helyntion mawr eu bywydau effeithio ar eu hymddygiad.
Nid yw maethu yn beth y mae modd ei wneud ar wahân. Mae'n effeithio ar eich teulu a'ch cyfeillion agos. Os oes plant eich hun gyda chi, ystyriwch yn ofalus sut y byddan nhw'n ymdopi â'ch rhannu chi, eu cartref a'u heiddo. Os oes partner gyda chi, mae'n rhaid, wrth gwrs, i'r ddau ohonoch fod eisiau maethu.
www.facebook.com/pembsfostering
fostering@pembrokeshire.gov.uk