Mae Crwner Ei Mawrhydi yn swyddog barnwrol annibynnol sy’n dal swydd o dan y Goron. Mae pob crwner yn lleol i awdurdodaeth, yn cael ei ariannu gan y cyngor lleol, ond yn annibynnol ar y Cyngor, yr heddlu, ysbytai a Llywodraeth Cymru.
Mae’r crwner yn cynnal ymchwiliadau ac yn penderfynu ar amgylchiadau ac achosion marwolaeth er budd:
Y Crwner
Yr Uwch Grwner Dros Dro yw Paul Bennett. Mae ei awdurdodaeth yn cwmpasu Sir Benfro i gyd, Sir Gaerfyrddin a’r dyfroedd arfordirol gwneir ei waith gan Gareth Lewis, y Crwner Cynorthwyol.
Staff y Swyddfa
Mae gweinyddiaeth swyddfa’r crwner yn cael ei gyflawni gan Glercod y Crwner. Y Clercod, fel arfer, ydy’r pobl gyntaf sydd i’w gweld neu eu clywed wrth gyrrraedd neu ffonio’r swyddfa. Mae pwerau cyfyngedig penodol wedi’u dirprwyo iddyn nhw gan y Crwner a’r gallu ganddyn nhw i rannu gwybodaeth am ddatblygiadau ymchwiliad.
Swyddog Crwner Sir Benfro, sy’n cael ei chyflogi gan yr heddlu, ydy Lisa Jenkins. Gellir cysylltu â hi yng Ngorsaf Heddlu Hwlffordd - Ffôn 101, est. 40619.
E-bost: lisa.jenkins@dyfed-powys.pnn.police.uk
Pwyntiau cyswllt ac ymholi
Mae Swyddfa’r Crwner ar gyfer Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin wedi’i lleoli yn Adain y Gogledd, Neuadd y Sir, Hwlffordd, SA61 1TP. Mae’r swyddfa ar agor o 9:00am i 4:00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Ffôn: 01437 775001 a 01437 775147
E-bost: pembscoroner@pembrokeshire.gov.uk
Y tu allan i oriau swyddfa, cysylltwch â gorsafoedd yr heddlu ar Ffôn 101.
Mae Swyddogion y Crwner ar gyfer Sir Gaerfyrddin wedi eu lleoli yn Llanelli. Mae’r swyddfa ar agor o 9:00 am. i 4:00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Ffôn: 01554 740713 neu 01554 740710
E-bost coronerscarms@dyfed-powys.pnn.police.uk
Dolennau cyswllt
Canllawiau Gwasanaethau Crwner