- Mae benthyciadau ar gael i berchen-feddianwyr, landlordiaid, datblygwyr ac elusennau / trydydd sector.
- Rhaid i'r ceisydd allu fforddio ad-daliadau'r benthyciad a chael prawf er mwyn sicrhau y bydd yn gallu ad-dalu'r benthyciad.
- Rhaid i waith a wneir gyda benthyciad gyfrannu at wneud yr eiddo'n gynnes neu ddiogel.
- Mae benthyciadau ar gael o £1000 i £25,000 fesul "uned drigiannol" (tŷ / fflat) hyd at uchafswm o £150,000 y ceisydd (6 uned neu fwy).
- Ni all unrhyw fenthyciad sy'n cael ei gynnig, gan ystyried morgais / benthyciad presennol fod yn fwy nag 80% o werth cyfredol yr eiddo.
- Y cyfnod ad-dalu hwyaf fydd deng mlynedd i berchen-feddiannwr a phum mlynedd i landlord sector preifat.
- Bydd ad-daliadau'n cael eu gwneud yn fisol trwy Ddebyd Uniongyrchol; yr ad-daliadau lleiaf yw:
- Perchen-feddianwyr - £50 y mis
- Landlordiaid - £100 y mis
Bydd un ffi weinyddol yn berthnasol y mae modd ei thalu dros gyfnod y benthyciad neu o flaen llaw; y ceisydd fydd yn penderfynu hyn.
- Am fenthyciadau dros hyd at 3 blynedd, y tâl fydd 10%
- Am fenthyciadau dros 4 i 10 mlynedd, y tâl fydd 15%
Mae nifer o amodau ar holl fenthyciadau cymeradwy er mwyn sicrhau bod arian y gronfa fenthyca'n cael ei "ailgylchu" i gynorthwyo gyda darparu rhagor o Fenthyciadau Gwella Cartrefi.
I gael rhagor o wybodaeth am Fenthyciadau Gwella Cartrefi, gwelwch y canllawiau ac, os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, llenwch a dychwelwch ffurflen mynegi diddordeb.
neu
I gael rhagor o wybodaeth neu wneud cais, cysylltwch â naill ai
Philip Jackson
Ffôn: 01437 775635
E-bost: Philip.Jackson@pembrokeshire.gov.uk