Beth I'w Wneud a Beth i Beidio â'i Wneud Wrth Dendro
Mae angen i chi ...
Gofrestru ar wefan www.gwerthwchigymru.llyw.cymru a sicrhau bod proffil eich cwmni yn cael ei gadw'n gyfredol a bod y categorïau yr ydych yn cofrestru ar eu cyfer yn adlewyrchiad cywir o’r math o nwyddau a gwasanaethau yr ydych yn eu cynnig.
Mynd i'n gwefan i gael gwybodaeth am ein contractau cyfredol.
Darllen y cyfarwyddiadau a'r holl ddogfennau’n ofalus a sicrhau eich bod yn cydymffurfio â'r holl ofynion a nodir.
Sicrhau eich bod yn cymryd y cyfle i werthu eich mudiad a'r cynhyrchion a Gwasanaethau yr ydych yn eu cynnig. Peidiwch â chymryd yn ganiataol ein bod yn gwybod y wybodaeth hon.
Os ydych yn ansicr am unrhyw beth, gofynnwch.
Os na allwch chi ateb rhyw gwestiwn penodol, ceisiwch roi rheswm pam na allwch ddarparu’r wybodaeth.
Gwneud yn siŵr bod eich cyflwyniad tendr yn bodloni'r fanyleb gofynion a bod yr holl gwestiynau a/neu feini prawf wedi’u hateb ac wedi ymateb iddynt yn fanwl.
Cynnwys copïau o'r holl dystysgrifau neu bolisïau cyfredol y gofynnir amdanynt a sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys mewn atodiad a chroesgyfeirio’n unol â hynny.
Sicrhau eich bod yn cwblhau’r atodlen Brisio a sicrhau eich bod yn gallu cynnal y pris a ddyfynnir am y cyfnod angenrheidiol. Efallai y bydd rhai tendrau hefyd yn gofyn am ddadansoddiad manwl o gostau.
Cymryd yn ganiataol ein bod yn gwybod popeth am eich cwmni a'r nwyddau a'r gwasanaethau a ddarperir gennych. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i gwmnïau sydd wedi’u cytundebu ar hyn o bryd neu yn y gorffennol gyda'r Awdurdod. Caiff tendrau eu gwerthuso ar eich cyflwyniad ysgrifenedig ac nid ar unrhyw brofiad blaenorol o ddelio â ni.
Peidiwch ag anfon cyfrifon cwmni neu adroddiadau oni bai ein bod yn gofyn amdanynt yn benodol. Os fydd angen, bydd y Cyngor yn nodi yn y ddogfen dendro'r math o wybodaeth ariannol sydd angen i chi ei chynnwys.