Contract – cytundeb rhwng y prynwr a’r gwerthwr a ellir ei orfodi yn ôl y gyfraith.
Codau Geirfa Cyffredinol Caffael CPV – dyma’r amrywiaeth o godau a ddefnyddir yn y sector cyhoeddus sy’n dosbarthu’r math o gynnyrch neu wasanaeth o fewn strwythur codio safonol. Bydd hysbysebion contractau ar GwerthwchiGymru (Sell2Wales) yn cynnwys CPV perthnasol i’r broses Gaffael a wneir. Bydd y cyflenwyr sydd wedi cofrestru i fedru darparu’r CPV hwnnw yn derbyn hysbysiad e-bost o’r cyfle sy’n cael ei gyhoeddi. Mae’r codau CPV o gymorth i ddod o hyd i gyfleoedd tendro sy’n ymwneud â’r cynhyrchion neu wasanaethau a ddarperir gennych – yn gyflym ac yn hawdd. Mae FTS a GwerthwchiGymru (Sell2Wales) yn defnyddio codau CPV.
Rheolau Gweithdrefn y Contract – pennir y rheolau gweithdrefn gan werth amcangyfrifedig y Caffael. Mae’n ofynnol i Swyddogion yr Awdurdod gael tri dyfynbris cystadleuol ar gyfer gwerth pob Caffael rhwng £5,000 a £24,999 ac mae unrhyw Gaffael sydd â gwerth £25,000 neu uwch yn cael ei gyhoeddi’n agored ar Sell2Wales.
Tendro Electronig – Mae’r holl ymarferion Tendro yn cael eu cynnal trwy gyfleuster e-dendro’r Awdurdod, gyda chyfeiriad y wefan yn cael ei nodi ar bob hysbyseb a osodir. Dylai’r rhai sydd â diddordeb ac sy’n dymuno cymryd rhan fynd i’r wefan i weld y cyfarwyddiadau a chyflwyno eu cais. Nid yw’r Awdurdod yn derbyn ceisiadau tendr copi caled.
Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 – rheolau a rheoliadau y mae’n rhaid i sefydliadau’r Sector Gyhoeddus gadw atynt wrth gaffael Nwyddau, Gwasanaethau a Gwaith sy’n uwch na throthwy gwerth penodol.
Mynegi Diddordeb – sef ymateb gan gyflenwr posibl i hysbyseb cyhoeddus cyffredinol neu gyfle tendro.
Gwasanaeth Dod o Hyd i Dendr FTS (Find a Tender Service) – y cyhoeddiad lle mae’n rhaid i bob contract sector cyhoeddus sy’n cael eu prisio dros drothwy gwerth penodol gael ei gyhoeddi.
Cytundeb Fframwaith – sef cytundeb gyda chyflenwyr sy’n nodi’r telerau a’r amodau ar gyfer gwneud pryniannau penodol (yn ôl y gofyn) drwy gydol cyfnod y cytundeb. Gall fod yn gontract y mae Rheoliadau Contract Cyhoeddus yn gymwys iddo ei hun, a gellir ei gynnal ar sail un cyflenwr neu aml-gyflenwr.
MEAT (Tendr Mwyaf Manteisiol yn Economaidd) – y meini prawf ar gyfer pennu’r tendr mwyaf manteisiol yn economaidd yn seiliedig ar y cyfuniad o bris ac ansawdd. Gall y pwysiad canrannol fod yn wahanol ar gyfer pob tendr, ond byddant yn cael eu nodi’n glir yn y dogfennau tendro, gan ddarparu’r wybodaeth angenrheidiol i gyflenwyr am sut y bydd eu cais yn cael ei werthuso.
Datganiad Dull – dyma gyfle’r cyflenwr i esbonio sut y byddant yn cyflawni’r contract. Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y Datganiad Dull yn benodol ar gyfer pob Caffael yr ymgymerir ag o, ac fel arfer yn rhan o’r gwerthusiad ansawdd.
Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (NPS) – Sefydlwyd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru er mwyn caffael gwariant cyffredin ac ailadroddus ar ran sector cyhoeddus Cymru gyfan. Mae rhan o wariant caffael yr Awdurdod yn uniongyrchol trwy fframweithiau’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, ond mae’r cyfleoedd hyn hefyd yn cael eu hysbysebu ar wefan Sell2Wales gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.
Caffael – caffael nwyddau, gwaith neu wasanaethau trwy’r dull mwyaf manteisiol yn economaidd er mwyn cwrdd ag anghenion y prynwr. Caiff caffael ei wneud yn unol â rheolau wedi eu pennu ymlaen llaw megis ein Rheolau Contract Caffael mewnol a Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 er mwyn sicrhau proses agored a thryloyw.
Gweithdrefnau Caffael – Mae trothwy Caffael o dan Reoliadau Contract Cyhoeddus yn cael ei lywodraethu gan ein Rheolau Gweithdrefn Contract ein hunain a phob Caffael a amcangyfrifir yn uwch na’r trothwyon yn ddarostyngedig i Reoliadau Contract Cyhoeddus 2015.
Gwasanaeth Caffael – mae tîm o swyddogion arbenigol yn goruchwylio’r rhan fwyaf o’r Caffael a gyflawnir o fewn y Cyngor, ac yn sicrhau fod y broses Gaffael yn agored a thryloyw, ac yn cydymffurfio â holl weithdrefnau, rheolau a rheoliadau perthnasol. Mae’r Gwasanaeth Caffael hefyd yn cynnig cymorth i’r cyflenwyr i’w helpu i dendro am fusnes y Cyngor.
GwerthwchiGymru – yw’r Wefan Caffael Genedlaethol lle mae pob contract sector gyhoeddus yn cael eu hysbysebu, ac yn achos Cyngor Sir Penfro, rydym yn hysbysebu’r holl weithgaredd caffael sydd â gwerth o dros £25,000. Gellir cofrestru am ddim ar y wefan hon.
Mentrau Bach a Chanolig – busnesau sy’n cwmpasu o unig fasnachwr i gwmnïau sefydledig sylweddol – sy’n cyflogi llai na 250 o weithwyr.
Manyleb – datganiad ysgrifenedig sy’n diffinio anghenion yr Awdurdod. Bydd y fanyleb yn amrywio yn ôl y math o waith, cynnyrch neu wasanaeth sy’n cael ei gaffael. Ar gyfer cynnyrch syml, gall y fanyleb fod yn ddisgrifiad byr, ond mewn achos lle mae’r anghenion yn gymhleth, bydd yn ddogfen gynhwysfawr e.e. contractau sy’n cynnwys elfen o ddyluniad.
Caffael Cynaliadwy – Asesu’r effaith cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd o ofyniad a defnyddio’r wybodaeth i ddylanwadu ar y broses caffael lle y bo’n briodol.
Hysbyseb Tendr neu Hysbysiad Contract – dyma’r hysbyseb sy’n hysbysu’r cyflenwyr bod Gwahoddiad i Dendro (ITT) yn cael ei gyhoeddi gyda manylion ar sut i gael gafael ar y dogfennau angenrheidiol. Cyhoeddir hysbysiadau contract gan ddefnyddio safle GwerthwchiGymru a’r cyfryngau cymdeithasol pan fo’n briodol.
Bid Tendr – yw cyflwyniad dogfennaeth Gwahoddiad i Dendro wedi ei gwblhau gan ddarpar gyflenwr sy’n cynnwys gwybodaeth yn arddangos gallu a chymhwysedd y cyflenwr, gwybodaeth fanwl ar sut y maent yn bwriadu bodloni manylebau’r contract a’r wybodaeth brisio.
Sefydliadau Trydydd Sector – sefydliadau nid er elw a yrrir gan werth ac sydd yn bennaf yn ail-fuddsoddi eu gwargedion er budd amcanion cymdeithasol, amgylcheddol neu ddiwylliannol. Maent yn cynnwys sefydliadau gwirfoddol a chymunedol, elusennau, mentrau cymdeithasol, busnesau â chymorth a mentrau cydweithredol.
Bandiau Gwerth – y dull a gymerwyd ar gyfer yr holl Gaffael sy’n cael ei bennu gan werth amcangyfrifedig y gofynion. Mae’r gwerth yn cael ei amcangyfrif yn seiliedig ar gyfuniad o wariant hanesyddol, cyllidebau sydd ar gael ac ymchwil y farchnad.
Cerdyn Prynu Cymru – cerdyn tâl gyda bathodyn Visa sy’n cael ei ddefnyddio’n gynyddol gan lawer o gyrff sector cyhoeddus yng Nghymru fel eu dewis ddull talu ar gyfer llawer o nwyddau neu wasanaethau gwerth isel.