Rôl y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol yw adolygu a chraffu ar wasanaethau sy'n ymwneud ag anghenion gofal, cymorth a lles plant ac oedolion.
Bydd y Pwyllgor yn craffu ar ansawdd a pherfformiad yr holl wasanaethau yn ymwneud â Gofal Cymdeithasol a ddarperir gan y Cyngor.
Mae cylch gwaith a chwmpas y Pwyllgor mewn perthynas â gwasanaethau cysylltiedig â Gofal Cymdeithasol fel a ganlyn:
· Gofal i oedolion
· Gwasanaethau Plant
· Cyd-gomisiynu strategol
· Gofalwyr
· Gwasanaethau integredig a lles
· Gofal Cartref
· Gweithio gyda'r Trydydd Sector
· Cydymffurfio â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles
· Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru
· Diogelu Rhanbarthol
· Maethu Rhanbarthol
· Mabwysiadu Rhanbarthol
Mae gan y Pwyllgor 13 o aelodau a bydd yn cyfarfod bum gwaith y flwyddyn o leiaf. Gellir cael manylion aelodau'r Pwyllgor a chyfarfodydd yn y dyfodol, ynghyd â Rhaglen Waith y Pwyllgor, drwy ddilyn y dolenni isod.
Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol
Cylch Gorchwyl - Pwyllgor Gofal Cymdeithasol
Rhaglen Blaen-Waith 2020 - 21 - Pwyllgor Trosolwg a Craffu Gofal Cymdeithasol