Rôl y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol yw adolygu a chraffu ar swyddogaethau corfforaethol a gwasanaethau cynorthwyol.
Bydd y Pwyllgor yn goruchwylio cyfeiriad strategol cyffredinol, polisïau, cynlluniau a blaenoriaethau’r Cabinet a'r Cyngor (yn dilyn penderfyniadau) ac yn monitro sut y cânt eu gweithredu. Bydd y Pwyllgor yn craffu ar y gwasanaethau corfforaethol gan ddefnyddio gwybodaeth reoli berthnasol megis Cynlluniau Gwella Gwasanaeth a'r Cofrestri Peryglon Busnes. Gellir cyfeirio unrhyw feysydd sy'n peri pryder penodol at Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Gwasanaethau fel bo'n briodol. Bydd y Pwyllgor hefyd yn goruchwylio’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) a'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol (PDC) drwy Banel Partneriaethau sefydlog, fel sy'n ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae cylch gwaith a chwmpas y Pwyllgor mewn perthynas â swyddogaethau a gwasanaethau Corfforaethol fel a ganlyn:
Swyddogaethau Corfforaethol
· Swydd yr Arweinydd
· Adroddiadau blynyddol Aelodau’r Cabinet
· Y Prif Weithredwr
· Monitro'r gyllideb (bob hanner blwyddyn)
· Monitro perfformiad corfforaethol (bob chwarter)
· Y Cynllun Gwella Corfforaethol a'r Adolygiad
· Cydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
· Adroddiadau corfforaethol Swyddfa Archwilio Cymru
· Y Gymraeg
· Rheoli Risg
· Diogelu Corfforaethol
· Chwythu'r Chwiban
· Rheoli’r Rhaglen Drawsnewid
· Rheoli rhaglen y Fargen Ddinesig
Gwasanaethau Corfforaethol
· Gwasanaethau Ariannol
· Technoleg Gwybodaeth
· Gwasanaethau Archwilio, Risg a Gwybodaeth
· Gwasanaethau Cwsmeriaid
· Adnoddau Dynol
· Gwasanaethau Cyfreithiol a Phwyllgorau
· Caffael
· Polisi Corfforaethol
· Cymorth Partneriaeth a Chraffu
· Cyfathrebu Corfforaethol, y Wasg, Cysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata
· Gwasanaethau Etholiadol
Mae gan y Pwyllgor 13 o Aelodau a bydd yn cyfarfod bum gwaith y flwyddyn o leiaf. Gellir cael manylion aelodau'r Pwyllgor a chyfarfodydd yn y dyfodol, ynghyd â Rhaglen Waith y Pwyllgor drwy ddilyn y dolenni isod.
Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol
Cylch Gorchwyl - Pwyllgor Corfforaethol
Rhaglen Waith 2020-21 - Pwyllgor Corfforaethol