Rôl Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gwasanaethau yw adolygu a chraffu ar wasanaethau a ddarperir gan y Cyngor, sy'n wynebu’r cyhoedd, ac eithrio’r rheiny sydd o fewn cylch gorchwyl Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Ysgolion a Dysgu a Gofal Cymdeithasol Bydd y Pwyllgor yn craffu ar ansawdd a pherfformiad y gwasanaethau hyn.
Mae cylch gwaith a chwmpas y Pwyllgor mewn perthynas â gwasanaethau’r Cyngor, a'r is-adrannau o fewn y gwasanaethau hyn, fel a ganlyn:
· Seilwaith
· Yr amgylchedd ac Argyfyngau Sifil posibl
· Tai
· Cynnal a Chadw Adeiladau
· Cynllunio
· Eiddo
· Diogelu'r Cyhoedd
· Datblygu Economaidd ac Adfywio
· Gwasanaethau Diwylliannol
· Gwasanaethau Hamdden
· Refeniw a Budd-daliadau
Mae gan y Pwyllgor 13 o aelodau a bydd yn cyfarfod bum gwaith y flwyddyn o leiaf. Gellir cael manylion aelodau'r Pwyllgor a chyfarfodydd yn y dyfodol, ynghyd â Rhaglen Waith y Pwyllgor drwy ddilyn y dolenni isod.
Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gwasnaethau
Cylch Gorchwyl - Pwyllgor Gwasanaethau
Rhaglen Waith 2020-21 - Pwyllgor Gwasanaethau