Rôl y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Polisïau a Chyn-penderfyniad yw adolygu a chraffu ar bolisïau, cynlluniau a strategaethau cyn i’r Cabinet wneud penderfyniad.
Bydd y Pwyllgor yn cynnal gwaith craffu cyn i benderfyniadau gael eu gwneud er mwyn cyfrannu at ansawdd a chadernid penderfyniadau’r Cabinet. Swyddogaeth bellach y Pwyllgor yw sicrhau bod y penderfyniadau a wneir gan y Cabinet yn cydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac mae'n cymryd yr egwyddor 'datblygu cynaliadwy' i ystyriaeth a’r 5 ffordd o weithio (tymor hir, ataliol, cynhwysol, cydweithredol ac integredig)yn ogystal â gofynion statudol eraill fel bo'n briodol (e.e. Deddf Cydraddoldeb 2010). Bydd hefyd yn sicrhau cyfranogiad Aelodau anweithredol ym mholisi cyllideb y Cyngor a’r fframwaith cynllunio drwy Banel Cyllid sefydlog.
Mae cylch gwaith a chwmpas y Pwyllgor fel a ganlyn:
· Rhaglen waith y Cabinet i’r dyfodol
· Cynigion ar gyfer newidiadau mewn gwasanaethau, trawsnewid a/neu arbedion effeithlonrwydd
· Asesiadau Effaith Integredig
· Strategaethau a chynlluniau, fel bo'n briodol
· Datblygu cynigion y gyllideb flynyddol a’r Dreth Gyngor a chynllunio ar eu cyfer drwy'r Panel Cyllid
Mae gan y Pwyllgor 13 o Aelodau a bydd yn cyfarfod bum gwaith y flwyddyn o leiaf. Gellir cael manylion aelodau'r Pwyllgor a chyfarfodydd yn y dyfodol, ynghyd â Rhaglen Waith y Pwyllgor drwy ddilyn y dolenni isod.
Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Polisi
Cylch Gorchwyl - Pwyllgor Polisi a Chyn Penderfynu
Rhaglen Waith 2020-21 - Pwyllgor Polisi a Chyn Penderfynu