Rôl Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Ysgolion a Dysgu yw adolygu a chraffu ar y gwasanaethau a ddarperir er mwyn gwella’r canlyniadau i blant, pobl ifanc a dysgwyr sy'n oedolion ac i gefnogi codi safonau addysgol a chanlyniadau.
Mae cylch gwaith a chwmpas y Pwyllgor fel a ganlyn:
· Canlyniadau addysgol ar bob cam, yn enwedig yng Nghyfnod Allweddol 4
· Perfformiad ysgolion, gan gynnwys y cymorth a ddarperir i ysgolion
· Categoreiddio ysgolion
· Cynorthwyo ysgolion drwy weithio’n rhanbarthol (h.y. ERW)
· Ysgolion Unigol (drwy Banel Craffu Ysgolion)
· Gwasanaethau Cynhwysiant
· Cymorth Ieuenctid a gwasanaethau eraill yn y gymuned (gan gynnwys Dysgu Oedolion)
· Dysgu, sgiliau a hyfforddiant ôl-16
· Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Choleg Sir Benfro
· Y Gwasanaeth Cerdd
· Datblygu Chwaraeon
· Llais a chyfranogiad plant
· Trefniadau ariannol mewn perthynas ag ysgolion a dysgu
· Diogelu ym maes Addysg
Mae gan y Pwyllgor 13 o Aelodau a phedwar aelod cyfetholedig statudol a bydd yn cyfarfod bum gwaith y flwyddyn o leiaf. Gellir cael manylion aelodau'r Pwyllgor a chyfarfodydd yn y dyfodol, ynghyd â Rhaglen Waith y Pwyllgor drwy ddilyn y dolenni isod.
Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Ysgolion a Dysgu
Cylch Gorchwyl - Pwyllgor Ysgolion a Dysgu
Rhaglen Waith 2020-21 - Pwllgor Ysgolion a Dysgu