Mae'r Tîm Trwyddedu yn gyfrifol am drwyddedu ac arolygu safleoedd carafanau gwyliau a phebyll (gwersylla) ledled y Sir. Ar hyn o bryd mae 174 o safleoedd gwyliau trwyddedig yn Sir Benfro.
Mae'r cyfrifoldeb am drwyddedu ac arolygu safleoedd carafanau preswyl gyda'r tîm tai ers cyflwyno Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013.
Ymwelwyr o ardaloedd gydag achosion uwch o’r coronafeirws
Yn dilyn cynnydd sydyn mewn achosion o’r coronafeirws (COVID-19) yn Sir Caerffili, mae cyfyngiadau newydd wedi cael eu cyflwyno i bobl sy’n byw yn yr ardal er mwyn lleihau lledaeniad y feirws a diogelu iechyd y cyhoedd.
Daeth y cyfyngiadau i rym am 6pm ar 8 Medi 2020 a byddant yn cael eu hadolygu’n barhaus. Mae rhestr lawn o Gwestiynau Cyffredin ar gael yn awr.
Mae Canllawiau Llywodraeth Cymru ar gael i fusnesau ar gymryd pob cam rhesymol i leihau’r risg o amlygiad i Coronafeirws ac mae’n cynnwys manylion sy’n ymwneud ag ymwelwyr sy’n aros mewn llety. Mae’n nodi:
“Efallai y bydd safleoedd sydd mewn sefyllfa i fedru gwneud hynny, ystyried eu dull o dderbyn gwesteion o ardaloedd/rhanbarthau lle mae nifer yr achosion yn uwch. Bydd gan sawl math o safleoedd, megis gwestai a darparwyr llety eraill, ddisgresiwn i wrthod derbyn pobl, ac y byddai’n debygol fod ganddynt wybodaeth ymlaen llaw o gyfeiriadau ymwelwyr sydd ar y gweill.
Bydd unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol o ran unigolion sy’n byw yn yr ardaloedd lle ceir mwy o achosion ar yr unigolion hynny. Er enghraifft, lle mae cyfyngiadau ar wneud aros dros nos yn cael eu rhoi mewn cyfraith i breswylwyr mewn ardal benodol, y trigolion hynny fydd yn gyfrifol am gadw at y gyfraith. Ni fydd unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol ar ddarparwyr llety y tu allan i ardal lle mae cyfyngiadau teithio ar waith i wirio a yw gwesteion yn preswylio yn yr ardal honno, neu i orfodi’r gyfraith drwy wrthod gadael i bobl o’r ardal honno aros. Fodd bynnag, ni ddylent gynnig llety i bobl sy’n fwriadol yn gweithredu’n groes i’r gyfraith.
Rydym yn annog pob darparwr llety i ystyried eu dull o ymdrin ag ymwelwyr a allai ddod o ardaloedd lle mae cyfyngiadau clo wedi eu nodi, neu ardaloedd lle mae nifer yr achosion yn uchel. Efallai y byddai darparwyr llety yn dymuno cysylltu gyda’r holl gwsmeriaid sydd wedi archebu yn barod gyda nhw i’w hatgoffa o’r gyfraith a rhoi cyfle iddynt ganslo neu ohirio eu harhosiad.
Gofynnir i bob rheolwr safle ystyried beth fydd eu dull gweithredu. Argymhellir hefyd y dylent ganiatáu i’r unigolion drafod eu sefyllfaoedd penodol eu hunain cyn gwneud penderfyniad terfynol i wrthod derbyn yr ymwelwyr”.
Llety a osodir i bobl sydd ddim yn rhan o aelwyd sengl/estynedig
Rhoddwyd caniatâd i lety hunanarlwyo agor o 11 Gorffennaf, ar yr amod mai dim ond i aelodau o’r un aelwyd neu aelwyd estynedig y dylid gosod y llety hwnnw.
O 22 Awst, rhoddwyd caniatâd i hyd at bedair aelwyd ymuno fel teulu estynedig. Mewn gwirionedd, mae’r bobl ar bob aelwyd yn dod yn rhan o un aelwyd ac yn mwynhau’r un rhyddid cyfreithiol sydd gan aelwyd. Maent yn gallu cyfarfod dan do a chael cyswllt corfforol. Gallent hefyd aros yng nghartrefi ei gilydd.
Y rheolau allweddol yw:
Mae’r canllawiau’n nodi bod yr holl reolau hyn yn faterion cyfreithiol, ac os bydd unigolion yn ymrwymo i aelwyd estynedig nad yw’n cydymffurfio â’r rheolau hyn, neu drwy weithredu fel pe baent mewn cartref estynedig lle nad ydynt yn aelod ohono, maent mewn perygl o gyflawni trosedd.
Gan fod yna ddisgwyliad ar y rhai sy’n gosod llety, mai dim ond i aelodau o’r un aelwyd neu aelwyd estynedig y maent yn gosod, yna ni ddylent, yn fwriadol, letya pobl sy’n gweithredu’n groes i’r gyfraith.
Rydym, felly, yn annog pob darparwr llety i ystyried eu dull o weithredu archebion, yn enwedig mewn lleoliadau mwy o faint. Dylai darparwyr llety ei gwneud yn gwbl glir wrth dderbyn yr archeb, ac ym mhob gohebiaeth cyn yr arhosiad, esbonio mai dim ond un aelwyd neu aelwyd estynedig a ganiateir, ac esbonio iddynt yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn rhan o aelwyd estynedig.
Gallai’r camau ychwanegol canlynol gael eu defnyddio i gefnogi’r ffaith mai dim ond aelwyd estynedig sy’n gymwys i ddefnyddio’r llety: