Coronafeirws (Covid-19)
Trwyddedu Sefydliadau Anifeiliaid
Sefydliadau Marchogaeth
Lle cedwir ceffylau i gael eu hurio ar gyfer marchogaeth neu i gael eu defnyddio, am dâl, neu am hyfforddiant marchogaeth, yna bydd y sefydliad angen trwydded dan Ddeddf Sefydliadau Marchogaeth 1964 & 1970.
Mae sefydliadau marchogaeth yn cael eu harchwilio gan filfeddyg ac Arolygwr Iechyd a Lles Anifeiliaid.
Cyn rhoi trwydded bydd y Cyngor yn archwilio'r lle i sicrhau:
- bod y ceffylau mewn iechyd da ac yn gallu gwneud y gwaith sydd ei angen ganddynt;
- bod yr holl offer marchogaeth yn ddiogel rhag unrhyw nam gweladwy a fyddai'n gallu achosi poen i'r ceffyl neu ddamwain i'r marchogwr;
- bod traed yr holl geffylau'n cael eu trimio ac os ydynt wedi'u pedoli, bod y pedolau'n ffitio'n iawn ac mewn cyflwr da;
- os bydd angen sylw milfeddyg ar geffyl yn ystod archwiliad, ni ddylid ei ddefnyddio i weithio;
- bod y ceffylau'n cael porfa, lloches, dŵr a phorthiant addas;
- bod ceffylau mewn stablau yn cael bwyd, ymarfer, dŵr a deunydd gwely addas a chael eu brwshio ar gyfnodau rheolaidd;
- bod camau'n cael eu cymryd i atal clefydau heintus a chyffwrdd-ymledol rhag lledaenu.
Am fwy o wybodaeth:
AMODAU TRWYDDED AR GYFER SEFYDLIADAU MARCHOGAETH
Os oes gennych unrhyw bryderon lles am anifeiliaid mewn sefydliadau marchogaeth anifeiliaid neu'n meddwl bod person yn masnachu heb drwydded yna cysylltwch â ni'n uniongyrchol
ID: 2429, adolygwyd 10/09/2021