Coronafeirws (Covid-19)
Trwyddedu Sefydliadau Anifeiliaid
Siopau Anifeiliaid Anwes
Mae cadw a rhedeg siop anifeiliaid anwes yn cael ei reoli gan Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951.
I redeg busnes sy'n gwerthu anifeiliaid anwes byddwch angen trwydded gan yr awdurdod lleol. Mae hyn yn cwmpasu gwerthu anifeiliaid anwes yn fasnachol, yn cynnwys mewn siopau anifeiliaid anwes a busnesau'n gwerthu anifeiliaid ar y rhyngrwyd.
Mae'n rhaid i awdurdodau lleol ystyried y canlynol wrth drafod cais am drwydded siop anifeiliaid anwes:
- bydd yr anifeiliaid yn cael eu cadw mewn lle addas, er enghraifft rhaid edrych ar dymheredd, gofod, golau, awyriad a glanweithdra
- bod digon o fwyd a diod i'r anifeiliaid a rhywun yn edrych arnynt ar adegau addas
- nad yw unrhyw famal yn cael ei werthu'n rhy ifanc
- bod camau'n cael eu cymryd i atal clefydau rhag lledaenu ymysg yr anifeiliaid
- bod darpariaethau tân ac argyfwng mewn lle
Am fwy o wybodaeth: AMODAU’R DRWYDDED A CHANLLAWIAU I SIOPAU ANIFEILIAID ANWES
Os oes gennych unrhyw bryderon lles am anifeiliaid mewn siop anifeiliaid anwes neu'n meddwl bod person yn gwerthu anifeiliaid anwes heb drwydded yna cysylltwch â ni'n uniongyrchol
ID: 2426, adolygwyd 10/09/2021