Daeth Adran165 ac Adran 167 Deddf Cydraddoldeb 2010 (Y Ddeddf) i rym ar 6 Ebrill 2017.
Mae Adran 167 y ddeddf yn rhoi’r pŵer i’r Awdurdod Trwyddedu gadw rhestr o gerbydau tacsi sy’n hygyrch ar gyfer cadeiriau olwyn (cerbydau llog) a cherbydau llog preifat.
Mae unrhyw yrrwr tacsi (cerbyd llog) neu gerbyd llogi preifat sydd wedi ei ddynodi’n addas ar gyfer mynediad i gadair olwyn yn gorfod cydymffurfio â gofynion Adran 165 Deddf Cydraddoldeb 2010, os nad ydynt wedi cael tystysgrif eithrio.
Y dyletswyddau sydd yn dod o dan Adran 165 yw :
Cludo’r teithiwr tra mae yn y gadair olwyn;
Peidio codi tâl ychwanegol am wneud hynny;
Cludo’r gadair olwyn, os yw’r teithiwr yn dewis eistedd mewn sedd teithiwr yn y cerbyd;
Cymryd camau priodol er mwyn sicrhau bod y teithiwr yn cael ei gludo yn ddiogel ac mor gyfforddus ag y bo modd;
Rhoi cymorth i’r teithiwr symud fel sydd yn rhesymol i’w wneud.
Mae rhoi cymorth i symud yn cael ei ddiffinio fel:
Galluogi’r teithiwr i fynd mewn ac allan o’r cerbyd;
Os yw’r teithiwr yn dymuno aros yn ei gadair olwyn, galluogi’r teithiwr i fynd i mewn ac allan o’r cerbyd tra mae yn y gadair olwyn;
Llwytho bagiau’r teithiwr i mewn neu allan o’r cerbyd
Os nad yw’r teithiwr yn dymuno eistedd yn y gadair olwyn, llwytho’r gadair olwyn i mewn neu allan o’r cerbyd
Mae’n drosedd i yrrwr cerbyd hygyrch ar gyfer cadair olwyn sydd ar restr ddynodedig i beidio â chydymffurfio gyda’r dyletswyddau uchod. Mae unrhyw fethiant i gydymffurfio gyda’r dyletswyddau hyn yn fater difrifol , a gall arwain at erlyniad a/neu atgyfeiriad at yr Is-bwyllgor Trwyddedu er mwyn ail-ystyried eu trwydded gyrru cerbyd llog/llogi preifat.
Mae Adran 166 yn caniatáu i’r Awdurdod Trwydded eithrio gyrwyr o’u dyletswyddau i gynorthwyo teithwyr mewn cadeiriau olwyn os ydynt yn fodlon ei bod yn briodol i wneud hynny ar sail feddygol, neu os yw cyflwr corfforol y gyrrwr yn ei gwneud yn amhosib iddo gydymffurfio â’r dyletswyddau.
Mae unrhyw yrrwr cerbyd llog neu gerbyd llog preifat sydd ar y rhestr ddynodedig yn gallu cyflwyno cais i’w eithrio o ddyletswyddau Adran 165, trwy gwblhau’r ffurflen gais perthnasol. Bydd gofyn cael tystiolaeth feddygol er mwyn cefnogi’r cais.
Isod mae rhestr gyfredol o gerbydau hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn sydd wedi eu trwydded gan Gyngor Sir Penfro.
Rhif trwydded | Rhif Cofestru'r Cerbyd | Model Cerbyd | Nifer y teithwyr | Enw Masnachu | Math o drwydded |
HC.122 | KM08 VJY | Citreon Dispatch | 8 | Harford Cabs | Hackney Carriage |
HC.93 | GN59 BZA | Iveco Daily | 8 | Hughes Taxis | Hackney Carriage |
HC.278 | BX64 UFB | Citreon Dispatch | 8 | Matts Cabs | Hackney Carriage |
HC.308 | SF64 EWL | Peugeot Expert | 7 | Matts Cabs | Hackney Carriage |
HC.66 | SH55 PXJ | Peugeot Expert | 7 | Bobbys Taxis | Hackney Carriage |
HC.12 | MA07 CAB | Peugeot Expert | 6 | Matts Cabs | Hackney Carriage |
HC.275 | SF13 AVO | Peugeot Expert | 7 | Matts Cabs | Hackney Carriage |
HC.279 | SF65 BVW | Peugeot Expert | 7 | Matts Cabs | Hackney Carriage |
HC.111 | SF59 AVX | Peugeot Expert | 8 | Cleddau Cabs | Hackney Carriage |
HC.236 | SF09 PZV | Peugeot Expert | 7 | Jocks Taxis | Hackney Carriage |
HC.2 | PO61 DHD | Renalut Traffic | 6 | Cleddau Cabs | Hackney Carriage |
HC.293 | YJ67 COU | Renalut Traffic | 8 | Harford Cabs | Hackney Carriage |
HC.296 | KX09 DFL | Ford Transit | 8 | Harford Cabs | Hackney Carriage |
HC.164 | DU03FZN | Ford Transit | 8 | Link Taxis | Hackney Carriage |
HC.29 | LC09 OMW | Mercedes Vito | 6 | Morgans Taxi | Hackney Carriage |
PH.5 | RK52 LXG | Renault Kangoo | 3 | Link Taxis | Private Hire (Vehicle) |
PH.41 | DK06 LKE | Renault Master | 8 | Link Taxis | Private Hire (Vehicle) |