COVID-19: Bydd unrhyw wybodaeth benodol yn ymwneud â Sir Benfro yn cael ei diweddaru ar www.sir-benfro.gov.uk/coronafeirws neu am wybodaeth sut i wneud cais am breaf Covid-19 ewch i llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws-covid-19

Wasanaeth Cynhwysiant

Gwasanaeth Cynghori: Saesneg fel Iaith Ychwanegol

Ein gwaith mewn ysgolion

Mae Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig Sir Benfro yn cefnogi ysgolion gyda phob agwedd ar Saesneg fel iaith ychwanegol neu Gymraeg fel iaith ychwanegol ac yn darparu hyfforddiant, cymorth a gwasanaeth ymgynghori i sicrhau bod ysgolion yn cefnogi disgyblion ethnig lleiafrifol sydd â Saesneg neu Gymraeg fel iaith ychwanegol ac yn codi eu cyflawniad.

Nod y gwasanaeth yw sicrhau hyder ac arbenigedd mewn Saesneg fel iaith ychwanegol ar gyfer staff addysgu a chymorth i sicrhau bod disgyblion sydd â Saesneg fel iaith ychwanegol yn cyflawni'u targedau yn yr ysgol.

Mae gan Sir Benfro un cydlynydd a thîm o ddau gynorthwyydd sy'n gweithio gyda phlant, eu teuluoedd a staff mewn ysgolion, ynghyd ag asiantaethau allanol, i fonitro lles disgyblion, gan sicrhau bod y disgybl yn gwneud cynnydd yn unol â'i botensial.

Mae'r gwasanaeth yn darparu ymatebion cyflym i geisiadau am asesiadau a chymorth ar gyfer disgybl sydd newydd gyrraedd sydd â Saesneg/Cymraeg fel iaith ychwanegol. Mae lles disgyblion hefyd yn rhan o'r gwaith sy'n cael ei wneud mewn ysgolion.

Mae'r tîm yn gosod targedau iaith ochr yn ochr â staff mewn ysgolion ac yn gweithio'n agos gydag ysgolion i olrhain cynnydd disgyblion a sicrhau bod disgyblion ethnig lleiafrifol sydd wedi’u nodi fel tanberfformio'n cael eu cefnogi cymaint â phosibl. Mae staff Gwasanaeth Cyflawni Lleiafrifoedd Ethnig hefyd yn cynghori ar gonsesiynau arholiadau, disgyblion sydd â gwaith paratoi ar gyfer arholiadau yn iaith yr aelwyd, defnydd cymdeithasol o iaith, mentora, a chymorth iaith neu gymorth academaidd, yn enwedig cyn arholiadau.

Yn ogystal, mae'r gwasanaeth yn darparu cyfieithiadau o lythyrau neu wybodaeth sy'n ymwneud â'r ysgol ar gyfer disgyblion a rhieni ac yn cynghori ar Wasanaeth Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd Cymru ac yn darparu cyfieithu ar y pryd trwyddo. 

Beth yw Saesneg/Cymraeg fel iaith ychwanegol?

Mae disgyblion sydd â Saesneg/Cymraeg fel iaith ychwanegol yn ddisgyblion sy'n siarad iaith arall heblaw am y Saesneg neu'r Gymraeg fel eu hiaith gyntaf.

Mae disgybl yn ddisgybl sydd â Saesneg neu Gymraeg fel iaith ychwanegol oherwydd y cafodd ei eni mewn gwlad wahanol neu oherwydd bod ei rieni yn siarad iaith wahanol gartref. Felly, mae'r Saesneg neu'r Gymraeg yn dod ei ail (trydedd, pedwaredd, pumed neu chweched) iaith. Mae'n iaith ychwanegol.

Os yw disgybl yn ddwyieithog (yn siarad dwy iaith) neu amlieithog (yn siarad nifer o ieithoedd), mae hyn fel arfer yn cael effaith gadarnhaol iawn ar ei berfformiad yn yr ysgol.

Po fwyaf o ieithoedd y siaredir, y mwyaf o lwybrau a chysylltiadau sydd rhwng ieithoedd yn yr ymennydd.

Gartre:

Gartref, dylai plant neu bobl ifanc gael eu hannog i ddefnyddio iaith eu haelwyd gan mai hon yw eu mamiaith a’u hiaith feddwl ac mae'n bwysig eu bod yn parhau i ddatblygu hon gyda'u teulu. 

Yn yr ysgol:

Cefnogir disgyblion sy'n newydd i'r Saesneg/Cymraeg neu yn y camau cynnar o ddysgu'r iaith gan amrywiaeth o strategaethau mewn dosbarthiadau prif ffrwd.

Gallai'r rhain gynnwys y canlynol:

Cyfaill neu gyfeillion/ffrindiau i'w cefnogi'n gymdeithasol.

Partneriaid siarad yn y dosbarth i helpu gydag iaith a chyfathrebu.

Cyfleoedd i ddatblygu eu hiaith yn y dosbarth trwy chwarae gemau iaith a gwrando ar eraill yn siarad Saesneg.

Defnyddio fframiau siarad ac ymarfer iaith neu eirfa newydd.

Dysgu geiriau newydd ymlaen llaw.

Defnyddio geiriaduron, geiriaduron electronig a dyfeisiau iPad gydag offer cyfieithu i gefnogi cyfieithu a chynnig delweddau gweladwy o eirfa allweddol a addysgir.

Cael eu paru â phlant eraill  sy'n siarad yr un iaith lle bo hynny'n bosibl ar gyfer gwaith.

Llyfrau ac e-lyfrau dwy iaith.

Partneriaid darllen i helpu gyda darllen a gweithgareddau darllen a deall.

Siarad/gwrando:

Bydd y rhan fwyaf o blant yn dechrau dysgu Saesneg trwy wrando ar batrymau iaith a thrwy gopïo a dechrau deall cyfarwyddiadau a chyfarchion. Byddant yn dysgu geiriau ac ymadroddion bob dydd megis ‘helô’, ‘hwyl fawr’, ‘diolch’, ‘os gwelwch yn dda’, ‘eisteddwch’, ‘sefwch’, ‘byrbryd’, ‘cinio’, ‘diod’, ‘dŵr’, ‘toiled’ ac ati.

Bydd hyn yn cynyddu i ddeall a defnyddio ymadroddion a brawddegau hirach dros amser.

Efallai y bydd amserlen weladwy neu ffan gyfathrebu yn cael ei rhoi i blant i ddechrau.

Bydd disgyblion sydd â Saesneg/Cymraeg fel iaith ychwanegol yn dysgu iaith gymdeithasol yn gyntaf trwy gyfathrebu â'u cyd-ddisgyblion a staff yn yr ysgol. Yn araf, byddant yn dechrau deall yr iaith academaidd sydd ei hangen arnynt yn yr ystafell ddosbarth, a dysgu sut i'w defnyddio.

Iaith gymdeithasol:

Mae plant yn dysgu iaith gymdeithasol sylfaenol yn gyntaf. Dyma'u sgiliau cyfathrebu rhyngbersonol sylfaenol a gellir cymryd tua dwy flynedd i’w dysgu. E.e. Bore da, sut wyt ti heddiw? Fy enw i yw …, Rwy'n cael brechdanau heddiw, Nid wyf yn deall, Allech chi ddangos y ffordd imi os gwelwch yn dda? Gaf i fynd i'r toiled os gwelwch yn dda? ac ati.

Iaith academaidd:

Mae'n cymryd mwy o amser i ddysgu'r iaith academaidd sydd ei hangen yn yr ystafell ddosbarth. Mae'n cymryd mwy o amser i ddisgyblion sydd â Saesneg/Cymraeg fel iaith ychwanegol ddal i fyny gyda'u cyfoedion sy'n unieithog yn bennaf (cyd-ddisgyblion sy'n siarad un iaith). Gall gymryd rhwng saith mlynedd a deng mlynedd i ddysgu'r cyfan sydd angen iddynt ei wybod.

Efallai y bydd angen addysgu hyn yn benodol trwy greu rhestrau neu weithgareddau geirfa allweddol i helpu i addysgu'r pwnc neu'r iaith sy'n benodol i'r pwnc sy'n ofynnol yn y dosbarth.

Efallai y bydd plant yn creu eu geiriaduron eu hunain er mwyn iddynt allu ymarfer gartref. Efallai y bydd angen partneriaid darllen arnynt i'w helpu i ddeall yr ystyr y tu ôl i'r geiriau y maent yn eu darllen mewn llyfr

Pa mor hir fydd yn ei gymryd i'm plentyn ddysgu Saesneg/Cymraeg fel iaith ychwanegol?

Bydd y gyfradd y mae plant yn dysgu Saesneg neu Gymraeg fel iaith newydd yn amrywio ac mae’n dibynnu ar bethau gwahanol, gan gynnwys:

  • Addysg flaenorol
  • Y gallu i gyfathrebu yn yr iaith gyntaf neu iaith yr aelwyd
  • Cymorth teuluol
  • Gallu gwybyddol
  • Llythrennedd blaenorol yn yr iaith gyntaf
  • Oedran ar amser dechrau dysgu'r ail iaith

Sut fydd ysgol fy mhlentyn yn helpu? 

Bydd ysgolion yn helpu eich plant trwy sicrhau'r canlynol:

  • Bod yr ysgol yn amgylchedd diogel a chroesawgar
  • Bod yr holl ddisgyblion yn teimlo eu bod wedi'u cynnwys
  • Annog ieithoedd yr aelwyd a siaredir yn yr ysgol a gartref
  • Staff yn siarad yn glir ac ar gyflymder arferol
  • Staff yn osgoi idiomau ac ymadroddion llafar sy'n gallu bod yn ddryslyd mewn ail iaith neu yn ystod y camau cynnar o gaffael iaith
  • Gwneud dysgu'n hwyliog, gweladwy ac amlsynnwyr, yn enwedig pan fydd y plentyn yn newydd i'r Saesneg
  • Atgyfnerthu iaith – ailadrodd a modelu iaith, ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • Cynllunio gweithgareddau dysgu cydweithredol, lle mae plant yn dysgu oddi wrth ei gilydd, a modelau Saesneg da
  • Dulliau dysgu cyfunol lle bo angen, gyda rhai rhaglenni dysgu ar-lein ac yn yr ystafell dosbarth
  • Trwy geisio cyngor a chymorth os oes angen gan y Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig a gwasanaethau cynhwysiant eraill os oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol neu fod angen darpariaeth dysgu ychwanegol arno

Beth am os oes gen i bryder am fy mhlentyn sydd â Saesneg/Cymraeg fel iaith ychwanegol?

Dylai rhieni a gofalwyr siarad ag ysgol eu plentyn i ddechrau os oes ganddynt unrhyw gwestiynau am eu plentyn yn dysgu Saesneg neu Gymraeg fel iaith ychwanegol.

Os nad yw rhieni'n teimlo bod hyn wedi datrys y pryder, gallant siarad â'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY).

Gall rhieni hefyd atgyfeirio eu hunain neu ofyn i gael eu hatgyfeirio i’r Bartneriaeth Rhieni, a fydd yn helpu i ddatrys problemau rhwng yr ysgol a'r cartref.

Sut y gall ysgol fy mhlentyn gael mynediad at gymorth pellach ar gyfer fy mhlentyn?

Ar y cyfan, bydd ysgolion a lleoliadau Blynyddoedd Cynnar yn gyfarwydd â sut i gefnogi disgyblion sydd â Saesneg fel iaith ychwanegol. Gallai ysgolion gysylltu â'r Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig am gyngor, asesiad a chymorth neu hyfforddiant pellach os nad yw'r disgybl yn gwneud y cynnydd disgwyliedig a bod pryderon.

Nod y Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig yw helpu staff mewn lleoliadau Blynyddoedd Cynnar ac ysgolion i wneud y cwricwlwm yn fwy hygyrch i ddisgyblion sydd â Saesneg neu Gymraeg fel iaith ychwanegol er mwyn helpu gwella eu canlyniadau a'u profiadau. Bydd hefyd yn cynghori colegau a lleoliadau chweched dosbarth lle bydd angen at ddibenion pontio

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag:

Annette Thomas
Arweinydd y Tîm Saesneg fel Iaith Ychwanegol / Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig

2H, Adain y Gogledd

Neuadd y Sir

Hwlffordd

SA61 1TP
Ffôn: 01437 770158,
E-bost: Annette.thomas@pembrokeshire.gov.uk

 

ID: 7836, adolygwyd 13/10/2021