Mae’r gwasanaeth Eiriolwyr Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol yn ganolog i weithrediad y Ddeddf. Mae eiriolwyr yn gweithio gyda rhywun nad oes ganddo’r gallu i wneud rhai penderfyniadau pwysig ac nad oes ganddo neb arall i ymgynghori ag ef er mwyn ceisio canfod ei ddymuniadau. Mae’r gwasanaeth Eiriolwyr Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol yn cael ei gydgysylltu ar draws Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gâr gan Mental Health Matters Wales.
RHAID rhoi cyfarwyddyd i Eiriolwr Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol, ac ymgynghori ag ef wedyn, ar gyfer pobl heb alluedd nad oes ganddynt neb arall i’w cefnogi (ar wahân i staff cyflogedig), pa bryd bynnag y mae:
GELLIR rhoi cyfarwyddyd i Eiriolwr Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol gefnogi rhywun nad yw’n gallu gwneud penderfyniadau ynglŷn â’r canlynol:
Gall atgyfeiriadau gael eu gwneud gan unigolyn awdurdodedig a dylent gael eu gwneud yn ysgrifenedig drwy lenwi ffrfln atgyfeirio a’i hanfon drwy ffacs, e-bost neu’r post.
Lle gwneir atgyfeiriad llafar dylai’r ffurflen atgyfeirio gael ei llenwi cyn pen 24 awr.
I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth Eiriolwyr Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol cysylltwch â’r canlynol:
IMCA Wales (rhan o Mental Health Matters Wales), Union Offices, Quarella Road, Penybont. CF31 1JW
Ffôn: 01656 649557 or 01656 651450
E-bost: imca@imcawales.org or imca@mhmwales.org
EIRIOL, Eiriolaeth Iechyd Meddwl yn Sir Gaerfyrddin, Llawr 1af, 59 Stryd y Brenin, Caerfyrddin SA31 1BA.
Ffôn: 01267 231122