Y Wal Ddringo
Dringo ar gyfer Plant
Croeso i’r ‘Hangout’ yng Nghanolfan Hamdden Hwlffordd. Mae gennym lawer o ddewisiadau i blant ar gyfer dringo.
Mini Chimps: 3 – 5 mlwydd oed a 5 – 7 mlwydd oed. Dim ond yn ystod gwyliau’r ysgol y mae’r sesiynau hyn ar gael ar hyn o bryd. Rhaid i oedolyn ddod gyda phlant ac mae’r sesiynau yn caniatáu i’r oedolyn ddringo yn ogystal â’r plentyn. Edrychwch ar lyfryn y gwyliau am fwy o fanylion.
Crefft a dringo: 3 – 7 mlwydd oed. Nid yw’r sesiwn ar gael ond yn ystod gwyliau’r ysgol. Rhaid i oedolyn ddod gyda’r plant. Dewch â phecyn cinio a’ch meddwl creadigol! Edrychwch ar lyfryn y gwyliau am fwy o fanylion.
Cheeky Chimps: 8 – 12 mlwydd oed. Clwb galw i mewn.
Clwb yr Hangout: 13 – 16 mlwydd oed. Clwb galw i mewn.
NICAS: cwrs 12 wythnos i blant 8 mlwydd oed a hŷn
Sesiynau Blasu: 8 mlwydd oed a hŷn. Sesiwn awr i roi cynnig arni. Gallwn dderbyn hyd at 9 o bobl ar y tro. (Os oes arnoch eisiau archebu lle ar gyfer 6 o bobl neu ragor, yna rydym yn cynnig pris arbennig i grwpiau. Edrychwch ar y wybodaeth am Ddringo mewn Grŵp/Partïon Dringo). Bydd yr holl offer diogelwch a hyfforddiant wedi ei gynnwys yn y pris.
Cost: Plentyn £8.50 (disgownt ar gael i aelodau)
Pryd: Dydd Sadwrn a Dydd Sul 2- 3 y prynhawn. Wrth gwrs, os nad yw hyn yn gyfleus i chi neu os byddai’n well gennych ddod yn yr wythnos, yna ffoniwch y ganolfan a gallwn drefnu amser arall (yn dibynnu pryd y bydd hyfforddwr ar gael).
Oedolion Ifanc Medrus 14 mlwydd oed a hŷn: Cewch gwblhau prawf cymhwysedd. Asesiad cyflym yw hwn o’ch sgiliau belai a gwneud clymau fel y gallwn fod yn hyderus i ganiatáu ichi ddefnyddio’r ganolfan heb fewnbwn pellach gan hyfforddwr. Ar ôl i chi brofi eich sgiliau, yna byddwch yn gallu defnyddio’r wal ddringo yn ystod ein Sesiynau Agored. Edrychwch ar yr amserlen ddiweddaraf am amserau’r sesiynau.
Cynhelir y prawf fel arfer ar Nos Lun am 7.30 yr hwyr a bydd cost y prawf yn cynnwys llogi’r holl offer (os bydd arnoch ei angen) a’ch mynediad i ddringo am y gyda’r nos. Os nad yw’r amser hwn yn addas i chi, ffoniwch y ganolfan, os gwelwch yn dda, a gallwn drefnu amser arall fydd yn gymwys i chi (yn dibynnu pryd y bydd hyfforddwr ar gael). Gallwn gwblhau y prawf yn ystod sesiynau Clwb yr Hangout hefyd.