Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-25
Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-25
Mae'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS) 2024-28 yn disgrifio sut rydym yn bwriadu parhau â'n hymrwymiad i gydraddoldeb a sut byddwn yn bodloni rhwymedigaethau cyfreithiol sydd wedi’u cynnwys yn Neddf Cydraddoldeb 2010. O fewn Deddf Cydraddoldeb 2010, mae gan gyrff cyhoeddus gyfrifoldeb ychwanegol i gyflawni Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus trwy ddyletswyddau cyffredinol a phenodol.
Mae'r adroddiad blynyddol hwn yn manylu ar sut mae Cyngor Sir Penfro wedi gwneud cynnydd yn erbyn amcanion Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 yn ystod y cyfnod adrodd 1 Ebrill 2024 – 31 Mawrth 2025.
Mae adroddiadau blynyddol blaenorol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol wedi'u hadrodd o fewn adroddiadau hunanasesu blynyddol y cyngor, sydd wedi cynnwys adroddiadau blynyddol 2022-23 a 2023-24. O dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), mae gennym ddyletswydd i adrodd bob blwyddyn ar berfformiad drwy broses o hunanasesu. Mae hunanasesiad yn ddadansoddiad sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n defnyddio ystod o ffynonellau mewnol ac allanol o wybodaeth i'n helpu i ddeall sut rydym yn bodloni gofynion perfformiad. Rydym yn gofyn tri chwestiwn allweddol i asesu perfformiad fel rhan o'r fframwaith hwn:
- Pa mor dda ydyn ni?
- Sut ydyn ni’n gwybod?
- Beth allwn ni ei wneud yn well a sut?
Mae'r adroddiad hwn yn ymgorffori'r fframwaith hunanasesu a ddefnyddir i fanylu ar gynnydd yn erbyn ein Strategaeth Gorfforaethol 2025-30, a gymeradwyir gan y cyngor bob hydref. Defnyddir y fframwaith i adrodd ar berfformiad cydraddoldeb yn gyffredinol ac mewn perthynas â thlodi yn yr adroddiad hwn. Darperir yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y cynnydd a wnaed hefyd o ran hysbysiad o gynnig Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cyngor Sir Penfro a data cydraddoldeb mewn cyflogaeth.