Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-25
Casgliad
Mae'r adroddiad yn adlewyrchu ein hymrwymiad i hyrwyddo a chydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Mae'r cyngor wedi ymrwymo i ymgorffori Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 wrth gyflenwi ei holl wasanaethau a gweithgareddau ac i gyflawni ein dyletswyddau. Mae gan amcanion cydraddoldeb rôl arwyddocaol i'w chwarae ar draws yr holl nodau llesiant.
Mae Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 yn cael ei fonitro gan Grŵp y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Strategol, sy'n cyfarfod bob chwarter. Mae camau gweithredu o dan y pum amcan cydraddoldeb wedi cael eu hadolygu ac mae ein hasesiad o berfformiad 2024-25 a thystiolaeth i ategu hyn wedi'u cyflwyno ynghyd â chamau gwella awgrymedig.
O dan ofynion y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, rydym wedi datblygu strategaeth i leihau tlodi ac anghydraddoldeb. Mae gweithredu Strategaeth Trechu Tlodi Sir Benfro, a gyhoeddwyd ddechrau 2024, yn cael ei arwain gan Weithgor Tlodi ac Anghydraddoldebau Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro. Cefnogir y broses o gyflawni gan uwchgynhadledd tlodi sy'n archwilio materion lleol a datrysiadau i drechu tlodi yn Sir Benfro, strategaeth gyfathrebu a chydweithio, a datblygu is-grŵp profiad bywyd i archwilio profiadau o gael mynediad at wasanaethau cymorth.
Canfu adolygiad yn 2022 gan Archwilio Cymru nad yw llawer o gyrff cyhoeddus yn defnyddio asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb yn effeithiol ac i'w potensial llawn. Mae proses y cyngor o gynnal Asesiadau Effaith Integredig wedi cael ei hadolygu yn ystod 2024/25. Mae cynllun peilot ar gyfer y broses newydd ar gyfer canllawiau a thempledi yn mynd rhagddo er mwyn sicrhau bod y fframwaith yn gadarn a bydd yn cael ei gwblhau yn 2025/26.
Mae'r gwaith sy'n cael ei wneud gan Is-grŵp Sir Benfro Wrth-hiliol yn cadarnhau ein hymrwymiad a'n cefnogaeth i Gymru wrth-hiliol a'r agenda genedlaethol a bydd y gwaith yn mynd rhagddo yn 2025/26.
Mae ein hadroddiad ar gydraddoldeb mewn cyflogaeth yn 2023-24 yn rhoi gwybodaeth i'r cyhoedd ehangach a rhanddeiliaid am arferion cyflogaeth y cyngor. Mae'n hanfodol bod Cyngor Sir Penfro yn cynnal gweithlu cytbwys sy'n adlewyrchu'r gymuned ehangach. Gall annog amrywiaeth o ran oedran, sgiliau a chefndiroedd arwain at weithle mwy dynamig ac arloesol. Mae'n hanfodol bod Cyngor Sir Penfro yn adlewyrchu'r gymuned ehangach ac yn parhau i gynnig cyfleoedd cyfartal i bob ymgeisydd. Gellid defnyddio gweithredu cadarnhaol wrth recriwtio i gynyddu amrywiaeth o fewn y cyngor sir.
Mae'n bleser adrodd bod y bwlch cyflog wedi lleihau: mae’r data ar y bwlch cyflog rhywedd ar gyfer 2024-25 yn dangos, yn seiliedig ar gyflog canolrifol fesul awr, fod menywod yn y cyngor yn ennill yr un swm o arian â dynion.