Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-25
Cyd-destun Deddfwriaethol
Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus "roi sylw dyledus" i dri nod: dileu gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl â nodweddion gwarchodedig a'r rheini hebddynt, a meithrin perthnasoedd da rhwng y grwpiau hyn.
Mae’n anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn rhywun oherwydd ei nodwedd warchodedig. Dyma’r term a ddefnyddir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 i nodi’r mathau o bethau sy’n effeithio ar y ffordd y mae pobl yn cael eu trin ac sy’n gallu golygu y gall pobl brofi gwahaniaethu. Mae’r gyfraith wedi’i llunio i’w gwarchod. Dyma’r nodweddion gwarchodedig:
- oedran
- anabledd
- ailbennu rhywedd
- priodas a phartneriaeth sifil
- beichiogrwydd a mamolaeth
- hil
- crefydd, cred neu ddiffyg cred
- rhyw
- cyfeiriadedd rhywiol
Nid ydym wedi cyfeirio at y Gymraeg yn yr adroddiad hwn – mae ein Strategaeth Cymraeg 2021–2026, a’n hadroddiadau blynyddol cysylltiedig, ar ein gwefan.
Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i ymwreiddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (yn agor mewn tab newydd) yn narpariaeth ei holl wasanaethau ac wrth ymgymryd â’i holl weithgareddau. Mae gan amcanion cydraddoldeb rôl arwyddocaol i'w chwarae ar draws yr holl nodau llesiant. Mae'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn ategu'r Strategaeth Cyfranogiad 2022-27 sy'n cynnwys nifer o amcanion sydd â'r nod o ehangu cyfranogiad mewn gwneud penderfyniadau.